Tamp a Cyddwysedd
Cyddwysedd ydy pan mae awyr tamp yn taro arwyneb oer. Mae’n troi i ddŵr wedyn. Dyma yw’r stêm sy’n ymddangos ar ddrych eich ystafell ymolchi neu eich ffenestri.
Mae’n digwydd trwy’r amser ym mhob man.
O ble mae’n dod
Mae’r corff yn creu lleithder trwy’r amser, wrth i ni anadlu a chwysu.
Mae mwy o leithder yn cael ei greu yn yr awyr pan rydym yn:
- cymryd bath
- cymryd cawod
- sychu dillad yn y tŷ
- coginio
- golchi llestri.
Mae gwresogydd nwy potel a pharaffin hefyd yn creu lleithder. Mae’r aer llaith yn teithio trwy’ch cartref ac wrth iddo gyffwrdd arwynebedd oer, megis ffenestr, mae’n cyddwyso.
Sut i gael gwared â llwydni
Os ydych yn ei ddal yn fuan gallwch gael gwared arno yn hawdd. Fel arfer gallwch ei sychu gyda chadach a hylif
glanhau arferol neu trwy ddefnyddio hylif lladd ffwng (fungicidal wash) sydd wedi ei gymeradwyo gan Awdurdod
Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Golchwch drosto eto pob rhyw ychydig o ddyddiau gyda glanhawr tŷ ermwyn atal iddo dyfu’n ôl.
Mae hyn yn gweithio orau pan mae’n rhan o’ch trefn glanhau arferol.
Sut i atal cyddwysedd a llwydni
Pethau callwch chi eu gwneud yn eich cartref bob dydd i atal llwydni:
• cadw drws y gegin ar gau ac agor ffenestr wrth goginio
• rhoi caead ar sosbenni wrth goginio
• gwneud defnydd o ffan os oes un yn y gegin ac ystafell ymolchi
• cau drysau ystafell ymolchi wrth ddefnyddio’r bath a gadael ffenestr yn agored wedyn
• lleihau’r stêm wrth redeg bath rhowch ddŵr oer gyntaf ac wedyn dŵr poeth
• peidiwch â gorlenwi cypyrddau – gwnewch yn siŵr bod lle i awyr symud
• peidiwch â gosod dodrefn a gwelyau yn rhy agos at y waliau
• cadwch y gwres ymlaen yn isel yn ystod y dydd mewn cyfnodau tywydd oer
• ceisiwch beidio defnyddio gwresogyddion paraffin neu nwy heb ffliw
• wrth ddefnyddio sychwr dillad, rhowch y beipen allan trwy ffenestr neu ddrws
• agor ffenestr wrth sychu dillad yn y tŷ
• peidio sychu dillad ar reiddiaduron cynnes
Cadw eich cartref yn gynnes
Os yw eich cartref yn gynnes mae cyddwysedd yn llai tebygol
.• ceisiwch gadw ychydig o wres trwy’r tŷ yn enwedig yn ystod tywydd oer y gaeaf
• peidiwch â gosod dodrefn mawr o flaen gwresogydd gan ei fod yn atal gwres rhag cylchu o amgylch yr ystafell
• dylai llenni/ cyrtans fod uwchben eich gwresogydd a ddim yn gorwedd drostynt
• mae llenni/cyrtans trwchus yn cadw gwres i mewn – cofiwch eu cau wrth iddi nosi
• cadwch lenni/ cyrtans yn agored ar ddiwrnodau braf i gynhesu ystafelloedd
• cadwch drysau ystafelloedd sy’n cael llawer o haul yn agored er mwyn i awyr cynnes allu symud o gwmpas eich cartref