Newid I gyfraith tai (Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 )
Fersiwn hawdd ei ddeall o ‘Beth mae Rhentu Cartref yn ei olygu
Mae’r ddogfen yma wedi cael ei hysgrifennu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n fersiwn hawdd ei ddeall o ‘Beth mae Rhentu Cartref yn ei olygu i Denantiaid a Thrwyddedai
Trosolwg
Dyma’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Mae’n cynnig mesurau amddiffyn gwell i denantiaid a thrwyddedeion, ac yn egluro eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Bellach mae ‘tenantiaid’ a ‘trwyddedigion’ yn cael eu galw yn ‘ddeiliaid contract’. Bydd eich landlord yn rhoi ‘contract meddiannaeth’ i chi yn lle eich cytundeb tenantiaeth neu eich cytundeb trwyddedu.
Mae dau fath o gontract meddiannaeth, sef:
Rhaid iddo hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n egluro ystyr a phwysigrwydd y contract.
Gellir cyflwyno contractau ar ffurf papur neu, os bydd deiliad y contract yn cytuno, yn electronig.
-
Contract diogel:
Os ydych yn denant tai cymdeithasol ac wedi derbyn eich eiddo drwy’r timau Opsiynau Tai neu SARTH, mae’n debygol eich bod ar gontract diogel.
-
Contract safonol: Os ydych yn rhentu ar Gynllun Rhent y Farchnad, Rhent Canolradd neu Rhent i Berchnogi ac wedi caffael eich eiddo drwy Tai Teg neu Asiant Eiddo, mae’n debygol eich bod ar gontract safonol.Os ydych yn dal i fod yn ansicr pa fath o gontract sydd gennych, cysylltwch â ni i’w egluro
Bydd landlordiaid yn anfon ’datganiad ysgrifenedig’ i chi i gadarnhau telerau eich contract.
Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig hwn gynnwys holl delerau gofynnol y contract. Y telerau hyn yw:
-
Materion allweddol:
Er enghraifft, enwau’r unigolion dan sylw a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
-
Telerau Sylfaenol:
Mae’r rhain yn trafod yr agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymryd meddiant o’r eiddo a rhwymedigaethau’r landlord mewn perthynas â gwneud gwaith atgyweirio.
-
Telerau Atodol:
Mae’r rhain yn ymwneud â’r materion mwy ymarferol, bob dydd sy’n berthnasol i’r contract meddiannaeth, er enghraifft, y gofyniad i roi gwybod i’r landlord os na fydd yr eiddo yn cael ei feddiannu am gyfnod o bedair wythnos neu ragor.
-
Telerau Ychwanegol:
Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft, teler sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes.
-
Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?
- Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi gyda’r nod o wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiaid i rhentu cartrefi yng Nghymru. Mae’n cyflwyno nifer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sector rhent cymdeithasol a phreifat.
-
Pryd fydd yn digwydd?
- Digwyddodd hyn 1 Rhagfyr 2022.
-
Beth yw pwrpas y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?
- Symleiddo cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhentu Cymru
- Cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i denantiad a landlordiaid.
-
Pwy fydd hyn yn effeithio?
- Pob landlord – preifat a chymdeithasol
- Pob tenant – preifat a chymdeithasol
-
Pam fod hyn yn ddigwydd?
I wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiad rhentu cartrefi yn Nghymru.
-
Beth sydd yn newid?
- Terminoleg newydd e.e. Tenantiaeth fel Contract Meddiannaeth â Tenant yn cael eu adnabod fel Deiliad Contract.
- Contract Meddiannaeth yn cymrud lle Cytundeb Tenantiaeth.
- Mwy o sicrwydd – 6 mis o rybudd ar yr amod nad yw’r contract yn cael ei dorri.
- Rhaid i bob cartref fod yn ddiogel – er engraifft larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydanol.
- Dulliau teg a chyson i ymddygiad gwrth gymdeithasol.
- Mwy o hawliau olyniaeth i basio eich cartref ymlaen
- Deiliad Contract yn gallu cael ei ychwanegu neu dynnu heb ddod â chontract i ben.
- Landlordiad yn gallu ad-feddiannu eiddo sydd wedi ei adael heb orchymun llys.
-
Beth mae hyn yn ei olygu i mi fel tenant?
- Symleiddo a gwella hawliau chi fel tenant
- Gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi yn Nghymru.
-
Sut fydd y Ddeddf yn effeithio arna i?
- Bydd tenanitiad presennol yn derbyn contact o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr 2022, fydd yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth.
- Bydd tenantiaid newydd o 1 Rhagfyr 2022 yn arwyddo contract yn y ffordd arferol ac fod copi wedi ei ddarparu i’r tenant o fewn 14 diwrnod.
- Mae’r contract yn cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i chi.
-
Ydi cydymffurfio hefo’r ddeddf yma yn mynd i gostio arian i mi neu effeithio ar fy rhent?
- Na, ni fydd y ddeddf yma yn effeithio ar eich rhent na costio dim i chi.
-
Fyddai angen neud unrhyw beth?
- Yr unig beth fyddwch angen gwneud yw darllen eich contact ac cyfarwyddro eich hunain ar eich hawliau ac cyfrifoldebau.
- Bellach, ers 01 Rhagfyr 2022, mae ein tenantiaid ddefnyddio’r ffurflenni yma i wneud newidiadau i’w cytundebau – dilynwch y linc yma i ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/rhentu-cartrefi-ffurflenni-i-denantiaid-deiliaid-contract
Mesurau i amddiffyn tenantiaid rhag cael eu troi allan er mwyn dial
Os bydd landlord yn ymateb i gais am waith atgyweirio drwy gyflwyno hysbysiad cymryd meddiant, ni fydd hawl awtomatig mwyach ganddo i gymryd meddiant os yw’r Llys yn fodlon bod y landlord wedi cyflwyno’r hysbysiad er mwyn osgoi gwneud y gwaith atgyweirio.
Cyd-gontractau
Gellir ychwanegu deiliaid contract i gontractau meddiannaeth neu eu dileu ohonynt heb orfod dod ag un contract i ben a dechrau contract arall. Bydd hyn hefyd yn gwneud y gwaith o reoli cyd-gontract yn haws ac yn helpu pobl sy’n dioddef cam-drin domestig drwy ei gwneud yn bosibl i droi’r sawl sy’n cam-drin allan o’r cartref.
Gwell hawliau olynu
Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i bennu olynydd ‘â blaenoriaeth’ ac olynydd ‘wrth gefn’ i etifeddu’r contract meddiannaeth. Drwy hyn, gellir sicrhau y caiff y contract ei etifeddu gan olynydd ddwywaith yn olynol, er enghraifft, gan ŵr neu wraig, ac yna gan aelod arall o’r teulu. Yn ogystal, mae hawl olynu newydd wedi’i chreu i ofalwyr.
Llety â chymorth
Os byddwch yn byw mewn llety â chymorth am fwy na chwe mis, cewch hawl i gael ‘contract safonol â chymorth’. Bydd y contract safonol â chymorth yn gweithio mewn ffordd debyg i’r contract safonol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich landlord yn cynnwys telerau sy’n ymwneud â’r canlynol:
- y gallu i adleoli deiliad y contract yn yr adeilad;
- gallu’r landlord i wahardd deiliad y contract o’r annedd dros dro am gyfnod hyd at 48 awr, hyd at deirgwaith o fewn chwe mis.