Talu rhent
Mae angen talu rhent o’r diwrnod mae eich tenantiaeth yn cychwyn.
Mae rhent yn cael ei godi bob dydd Llun.
Os nad yw hyn yn gyfleus, gallwn drefnu i chi dalu ar ddiwrnod sy’n fwy cyfleus i chi.
Ffyrdd o dalu eich rhent
Mae sawl ffordd o dalu rhent. Mae ein staff ar gael i’ch helpu gyda’r ffordd orau i dalu eich rhent.
-
Debyd Uniongyrchol
- arian yn mynd allan o’ch banc ar ddiwrnod o’ch dewis chi
- ffordd hawdd o dalu eich rhent.
- dim angen gwneud dim ar ôl ei drefnu
- hawdd cadw trefn ar eich arian
- gallwch ganslo ar unrhyw adeg
Byddwn yn cysylltu efo chi os fydd unrhyw newid i’ch rent.
Cysylltwch â ni i drefnu Debyd Uniongyrchol
Byddwn angen manylion eich cyfrif banc, rhif sortio a rhif y cyfrif.
-
Talu cylchol gyda cherdyn banc
Ychydig yn wahanol i Debyd Uniongyrchol.
- rhent yn cael ei dalu yn awtomatig ar ddyddiad o’ch dewis chi
- os nad oes digon o arian yn eich cyfrif banc ni fyddwch yn talu ffi
- dim angen i chi wneud dim ar ôl ei drefnu os nad yw manylion eich cerdyn banc yn newid
-
Swyddfa'r Post
Gallwch gael cerdyn talu Adra i dalu yn Swyddfa’r Post neu unrhyw siop sydd yn defnyddio Paypoint. Bydd logo Paypoint y tu allan i’r siop.
- mae llawer o lefydd Paypoint mewn siopau ac ar agor yn hwyr
- gallu talu dros y ffôn neu dros y we gyda eich cerdyn Adra
- os ydych wedi colli eich cerdyn gallwch dalu yn y siop trwy ddefnyddio anfoneb, sydd ar gael trwy gysylltu â ni
-
Talu dros y ffôn
Ffoniwch ni ar 0300 123 8084 i dalu eich rhent gyda cerdyn banc.
Nid ydym yn gallu cymryd taliad gyda cerdyn credyd.
-
Talu dros y we
Gallwch dalu ar-lein trwy wefan ‘Allpay’.
- cofrestru ar y wefan yn defnyddio eich cerdyn Allpay neu rhif taliad
- gwneud taliad gyda cerdyn debyd
- mae arian yn cymryd 1 diwrnod gwaith i symud i’ch cyfrif rhent
-
Talu dros decst
Gallwch dalu rhent yn ddiogel gyda eich cerdyn banc a ffôn symudol.
- rhaid cofrestru ar y wefan ‘Allpay’ a rhoi manylion eich cerdyn banc fewn i’r system
- tecstiwch ‘Pay rent’, faint o arian rydych eisiau ei dalu ac eich cyfrinair, sef 4 rhif olaf eich cerdyn debyd i 81025
- byddwch yn cael tecst yn cadarnhau eich taliad
Gallwch alw heibio i un o’n swyddfeydd neu llyfrgell leol i gael defnyddio’r we i gofrestru.
-
Ap Allpay
Gallwch dalu trwy ap ‘Allpay’ gyda ffôn ‘Apple’ neu ffôn ‘Android’.
Byddwch angen cerdyn ‘Allpay’ a cherdyn banc.- lawrlwythwch yr ap – am ddim
- wedi cofrestru gallwch dalu eich rhent heb fynediad i’r we
- mae’r ap yn gallu cofio taliadau a manylion banc felly dim angen rhoi rhain i fewn bob tro
- mae’r ap yn ddiogel ac ar gael trwy’r dydd, bob dydd