Golau Gwyrdd i adroddiad Cynaladwyedd
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad Cynaladwyedd ar gyfer 2022/23.
Ni yw un o’r cymdeithasau tai cyntaf yng Nghymru i ddechrau adrodd ar gynaliadwyedd yn dilyn cyflwyno’r Safonau Adrodd Cynaladwyedd ym mis Tachwedd 2020.
Mae creu adroddiad o’r fath yn cyd-fynd ag un o’n gwerthoedd craidd o fod yn agored gyda’n cwsmeriaid, partneriaid, a buddsoddwyr ac yn ein galluogi i adrodd ar berfformiad mewn ffordd agored a chlir.
Dyma’r trydydd adroddiad i ni ei greu ac mae’n pwysleisio eto ein hymrwymiad i wella ein heffaith hir dymor ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol.
Gan ein bod yn berchen ac yn rheoli dros 7,000 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru, rydym mewn sefyllfa wych i wneud cyfraniad sylweddol i leihau allyriadau carbon yng Nghymru.
Rydym am gael ein cydnabod am ein hymrwymiadau amgylcheddol, am gryfhau ein heffaith gymdeithasol a bod gennym drefniadau llywodraethu cryf ar waith i gefnogi cynaladwyedd.
Datgarboneiddio ein cartrefi yw un o’n blaenoriaethau allweddol ac rydym yn cefnogi ein huchelgais i leihau ein hôl troed carbon drwy chwilio am fodelau darparu amgen, croesawu arloesedd a dangos fod gennym wir archwaeth i fod yn wyrdd.
Er bod yr adroddiad hwn yn caniatáu i ni ddangos i gynulleidfa ehangach o randdeiliaid a buddsoddwyr, trwy fetrigau allweddol ac astudiaethau achos / asesiadau / dadansoddiad o wir faint ein heffaith gymdeithasol ar yr amgylchedd ehangach, rydym hefyd yn ceisio dangos sut mae ein gweithgarwch yn rhoi ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn.
Mae’r adroddiad ei hun wedi ei rannu yn dair rhan: amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol ac mae’n edrych ar:
- fforddiadwyedd a pha mor ddiogel yw cartrefi
- pwysigrwydd buddsoddi yn ein stoc bresennol
- sut mae tenantiaid yn cymryd rhan i wella ein gwasanaethau
- cefnogi tenantiaid a chymunedau i ffynnu:
- ein hymrwymiad i newid yn yr hinsawdd ac ecoleg
- sut rydym yn llywodraethu’r ffordd rydym yn gweithio.