picture of Lleiod Garage site, showing the derelict site.

Gwaith ar fin cychwyn ar 21 o fflatiau newydd yng Nghaernarfon

Rydym ar fin cychwyn gwaith o adeiladu 21 o fflatiau modern ar safle hen garej yng nghanol Caernarfon.

Bydd y prosiect yn trawsnewid hen safle Garej Lleiod ar Ffordd Llanberis, Caernarfon i greu adeilad preswyl pedwar llawr a fyddai’n cynnwys 21 o fflatiau cymdeithasol i unigolion dros 55 oed, yn ogystal â lolfa gymunedol, storfa sgwteri/beiciau, storfa finiau, mannau parcio ac ardaloedd wedi’u tirlunio.

Llun cyfrifiadur o sut fydd yr adeilad newydd yn edrych

Mi fydd yr adeilad yn cynnwys 7 fflat un ystafell wely a 14 fflat dwy ystafell wely.

Mae Read Construction Holdings Ltd wedi’i benodi fel y contractwyr ar gyfer y datblygiad.

Dywedodd Elliw Owen, Uwch Rheolwr Prosiect Datblygu yma yn Adra: “Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r holl bartneriaid ar y cynllun hwn ac i ailddatblygu safle segur yng nghanol Caernarfon.

“Mae cymaint o alw am gartrefi fforddiadwy yng Ngwynedd a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd y gall pobl leol fod yn falch ohonynt, sy’n effeithlon o ran ynni, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi.”

Mae’r datblygiad hwn yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chymdeithasau Tai fel rhan o Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd. Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: “Gyda dros 4500 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd yng Ngwynedd mae’n newyddion cadarnhaol iawn bod 21 cartref ychwanegol am gael ei adeiladu ar y safle yma yng Nghaernarfon.

“Hefyd, mae’n wych gweld bod ardaloedd segur fel hen Garej Lleiod yn cael eu hail-bwrpasu i fod yn dir i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, sydd wir ei hangen, i bobl leol yn y dref.

“Mae’r Cyngor wedi gosod nod i adeiladu 700 o dai cymdeithasol trwy Wynedd dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’n berthynas gref efo Cymdeithasau Dai fel Adra yn golygu ein bod ni’n gallu gweithio ar y cyd i ddarparu cartrefi hirdymor newydd ac adeiladu cymunedau gwydn a chryf i bobl Gwynedd.”

Y gobaith yw y bydd y cartrefi wedi eu cwblhau erbyn gaeaf 2025.

Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r cartrefi Rhent Cymdeithasol cofrestrwch gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd Cyngor Gwynedd.

Os ydych wedi cofrestru am gartref cymdeithasol yng Ngwynedd yn barod, nid oes angen cofrestru eto: