
Gwasanaeth Carolau Cyntaf Adra
Diolch o galon i bawb ddaeth i gefnogi gwasanaeth carolau cyntaf erioed i Adra ei drefnu.
Dath tyrfa teilwng ynghyd yr wythnos hon yng Nghadeirlan Bangor, gyda darlleniadau gan Aelodau staff a Bwrdd Adra, ynghyd ag eitemau cerddorol gan Maes G Showzone, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn a chan Gôr Adra.
Casglwyd dros £250 tuag at Uned Arennau Ysbyty Gwynedd, elusen ddewisedig Adra ar gyfer y flwyddyn hon.
Diolch hefyd i gwmni Travis Perkins hefyd am noddi’r noson.