Gwasanaethau Blaenoriaeth SP Energy Network
Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth SP Energy Network?
Os bydd toriad pŵer, mae timau o SP Energy Networks yn gweithio bob awr o’r dydd i adfer eich trydan cyn gynted â phosibl. Maent yn gwerthfawrogi y gallai hyn fod yn arbennig o ofidus i rai cwsmeriaid a dyna pam eu bod yn cynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid sy’n teimlo bod angen ein cymorth arnynt.
Gallwch ymuno â’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth os ydych:
- Dros 60 oed
- Bod ag angen cyfathrebu arbennig
- Yn dibynnu ar drydan ar gyfer gofal cartref neu feddygol
- Bod â phlentyn dan 5 oed
- Bod â salwch cronig
- Neu dim ond teimlo bod angen ychydig o help ychwanegol arnoch
Gallwch hefyd gofrestru os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch am gyfnod byr o amser e.e. os ydych chi’n gwella ar ôl llawdriniaeth, os ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.
Ni fydd bod ar y gofrestr o reidrwydd yn golygu y gall y cwmni adfer eich pŵer yn gyflymach, fodd bynnag byddwn yn ceisio cysylltu â chi yn rhagweithiol os ydym yn gwybod am broblem yn eich ardal.
Os hoffech gael eich ychwanegu at y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, llenwch ffurflen gyflym neu anfonwch neges destun PSR i 61999. Bydd y cwmni fel arfer yn cysylltu â chi o fewn 48 awr.