Gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): gohirio’r dyddiad gweithredu
Dyma ddatganiad gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru am y dyddiad mynd yn fyw ar gyfer y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn newid i 1/12/2022.
“Ym mis Ionawr cyhoeddais fy mod yn bwriadu dod â’r darpariaethau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i rym ar 15 Gorffennaf 2022.
Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau gan landlordiaid, yn enwedig landlordiaid cymdeithasol, sydd wedi gofyn am oedi cyn gweithredu’r Ddeddf. O’r herwydd, ac yn sgil y pwysau digynsail, gan gynnwys adfer ar ôl COVID a chymorth i’r rhai sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin, rwyf wedi penderfynu gohirio gweithredu’r Ddeddf hyd 1 Rhagfyr 2022. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i landlordiaid gwblhau’r gwaith paratoi sydd ei angen cyn i’r Ddeddf gael ei gweithredu.
Yn anaml iawn y gwelir y math o ddiwygio llwyr y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn arwain ato – unwaith mewn cenhedlaeth efallai. Rwyf am wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod gan landlordiaid ddigon o amser i wneud y gwaith paratoi sydd ei angen i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf.
Rwy’n gwerthfawrogi y bydd yr oedi hwn, er ei fod yn gymharol fyr, yn destun rhwystredigaeth i rai o’n partneriaid, yn enwedig y rheini sy’n awyddus i weld yr amddiffyniadau gwell y bydd y Ddeddf yn eu darparu.
Rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth honno, ond rwy’n cydnabod bod paratoi contractau ar gyfer tenantiaid newydd a sicrhau bod yr adeiladau’n bodloni’r safonau addasrwydd a amlinellir yn y ddeddfwriaeth yn peri cryn waith – yn enwedig ar gyfer y landlordiaid hynny sy’n gyfrifol am lawer o adeiladau. Rwyf hefyd yn derbyn y byddai’n fuddiol i landlordiaid o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn ogystal ag asiantiaid gosod a rhanddeiliaid eraill, gael amser ychwanegol i ymgyfarwyddo â’r gwahanol ddarnau o is-ddeddfwriaeth – y bydd y gyfres olaf ohonynt yn cael eu gwneud ym mis Gorffennaf – cyn i’r Ddeddf ddod i rym.
Rwy’n cydnabod yn llawn y problemau mae newid o’r hen system gyfarwydd i fframwaith deddfwriaeth hollol newydd yn eu peri i landlordiaid ledled Cymru. Yn enwedig mewn cyfnod lle rydym yn parhau i ymdrin â sgil-effeithiau’r pandemig, a lle rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i groesawu pobl sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin i Gymru.
Er hynny, rwy’n hollol siŵr y bydd y diwygio hwn yn arwain at lawer o fanteision hirdymor i landlordiaid a’r rhai sy’n rhentu eu cartref.