Gwleidyddion yn gweld cynnydd yn hwb datgarboneiddio cyntaf Cymru
Croesawodd Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru, ddirprwyaeth o’r Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig o etholaethau Arfon a Dwyfor Meirionnydd i safle datgarboneiddio newydd sbon ym Mhenygroes, y cyntaf o’i fath yng Nghymru a Phrydain.
Ymwelodd Liz Saville Roberts Aelod Seneddol (Dwyfor Meirionnydd), Sian Gwenllian Aelod Senedd (Arfon), Mabon ap Gwynfor, Aelod Senedd (Dwyfor Meirionnydd), yn ogystal â Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod dros yr Economi ac Adfywio â’r hwb o’r enw Tŷ Gwyrddfai heddiw (dydd Iau, 5 Ionawr).
Mae’r hwb, sy’n cael ei gynorthwyo drwy arian Cronfa Adnewyddu Gymunedol a Thrawsnewid Trefi, wedi’i osod ar safle hen ffatri Northwood yn Nyffryn Nantlle a bydd yn darparu hyfforddiant ar gyfer arddangos a gosod rhaglen sy’n rhan o ‘r proses datgarboneiddio cartrefi. Bydd y datblygiad yn cefnogi cymunedau Dwyfor a Meirionnydd ac yn mynd i’r afael â’r diffyg adnoddau hyfforddi ar gyfer pobl ifanc yn yr ardaloedd hyn.
Bydd y cyfleusterau hyfforddi, sy’n cael eu cefnogi gan Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai, yn agor eleni. Mae Travis Perkins hefyd yn defnyddio’r safle fel depo i Adra a’i gontractwyr. Bydd Welcome Furniture hefyd yn gweithredu o’r safle yma.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra: “Roeddem yn falch iawn i groesawu’r ddirprwyaeth i Dŷ Gwyrddfai i weld y cynnydd yn y gwaith.
“Mae’r prosiect hwb datgarboneiddio yn agos iawn at ein calonnau yn Adra. Rydym wedi ymrwymo i gynnal gwaith effeithlonrwydd ynni yn 1,000 o’n cartrefi erbyn 2025. Rydym am leihau allyriadau o’n cartrefi (fydd o gymorth i leihau tlodi tanwydd a chostau byw), cynyddu defnydd o ddeunydd o ffynonellau cynaliadwy a hyfforddi ein rheolwyr mewnol mewn technolegau gwyrdd ac adeiladu.
“Mae sylw Tŷ Gwyrddfai hefyd ar greu cyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf i sefydliadau eraill eu defnyddio, creu swyddi yn ardal Gwynedd a chryfhau’r broses gyflawni leol trwy ein cysylltiad llwyddiannus â Travis Perkins.
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau uchelgeisiol a blaengar sy’n cefnogi Adra i arwain ar y ganolfan ragoriaeth hon yng nghanol ardal Dyffryn Nantlle.”
Dywedodd Siân Gwenllian AS Arfon: “Mewn cyfnod sy’n heriol iawn yn economaidd, mae’n wych cael achos i ddathlu.
“Roedd colli Northwood Hygiene yn ergyd drom i ardal sydd eisoes wedi wynebu nifer o heriau economaidd. Mi soniais yn 2020 bod colli 94 o swyddi yn Nyffryn Nantlle yn cyfateb i golli miloedd o swyddi mewn ardal fwy poblog yng Nghymru
“Ond rŵan gallwn edrych ymlaen i’r dyfodol, a dathlu y bydd Dyffryn Nantlle yn gartref i waith arloesol a phwysig yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd
“Mae Tŷ Gwyrddfai ymhlith nifer o ddatblygiadau cyffrous yn yr economi leol yn fy etholaeth i yn Arfon. Dyma’r math o gyflogaeth gynaliadwy, sgil uchel sydd ei hangen ar yr ardal a hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid perthnasol am eu gwaith a’u huchelgais.”
Dywedodd Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS:“Roedd yn wych ymweld â safle Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes i ddysgu mwy am y prosiect cyffrous hwn a fydd, unwaith y bydd yn gwbl weithredol, yn faes arbenigedd i ymchwil, datblygu ac adeiladu ac yn darparu cyfleusterau hyfforddi blaengar i hwyluso datgarboneiddio cartrefi lleol.
“Bydd y hwb arloesol hwn yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad technolegau ynni gwyrdd, tra bydd partneriaeth Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael â’r diffyg mewn cyfleoedd hyfforddi i’n pobl ifanc ym meysydd adeiladu ac effeithlonrwydd ynni – gan arwain at greu swyddi lleol. Bydd y fenter unigryw hon, sy’n dod ag arbenigwyr ym meysydd tai, ymchwil, adeiladu ac addysg ynghyd yn feincnod pwysig ar y llwybr i net sero.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ganolfan ragoriaeth hon yn datblygu – gan gadarnhau rôl arweiniol Gwynedd yn y broses ddatgarboneiddio.”