Gwobr Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth Cwsmer
Rydym wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto wrth i ni dderbyn gwobr Achrediad Rhagoriaeth Mewn Gwasanaeth Cwsmer am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Ar ôl asesiad diweddar gan y Ganolfan Asesu, rydym wedi derbyn cadarnhad ein bod yn parhau i gyrraedd y Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmer ac ein bod yn cael derbyn y wobr yma unwaith eto.
Rydym hefyd wedi llwyddo i gael graddau Compliance Plus am ein gwaith o fewn ein cymunedau a gyda’n cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Tîm Galar, Academi Adra i gefnogi ein cwsmeriaid / tenantiaid i waith a datblygu gwefan newydd yn benodol ar gyfer ein tenantiaid o’r enw Cymuned Adra, sydd yn rhan ychwanegol a digidol o’n newyddlen tenantiaid. Rydym hefyd wedi cael ein gwobrwyo am weithio mewn partneriaeth i ddatblygu pecyn cefnogaeth ddigartref yn ein safle datblygu newydd yn 137 Stryd Fawr, Bangor.
Dywedodd Hugh Keachie, Aseswr Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer:
“Mae Adra wedi arddangos lefelau gwych o Wasanaeth Cwsmer., Mae Adra’n sefydliad sy’n dda iawn am feddwl tu allan i’r bocs, ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y pandemig. Maent yn creu cyfleoedd ardderchog i’w cwsmeriaid a mae dymuniad clir gan staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da. Roedd yn hynod bositif clywed gan staff eu bod yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu grymuso i gyflawni tasgau.”
Dywedodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr ar gyfer Cwsmeriaid a Chymunedau:
“Rydw i wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i dderbyn Achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer unwaith eto ar ôl blwyddyn heriol.
“Mae ein cwsmeriaid yng nghanol popeth ydan ni’n ei wneud a mae’n staff yn benderfynol i ddarparu gwasanaethau gwych sy’n cadw cwsmeriaid yn ddiogel ac yn gyffyrddus yn eu cartrefi. Mae’n galonogol cael cydnabyddiaeth ac adborth cadarnhaol am y gwaith ydan ni’n gyflawni.
“Rydym yn parchu, gwerthfawrogi a gwrando ar ein cwsmeriaid ac mae ganddynt hawl disgwyl y gorau gennym. Rydym yn gwybod bod lle i wella o hyd a’n bod yn agored i sylwadau a syniadau.
“Hoffwn ddiolch i’r tim cyfan yn Adra. Fel sefydliad, rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu ymhellach fyth a gwneud ein gorau i’n cwsmeriaid.”