Gwybodaeth Coronafeirws
Dechreuodd yr achos o goronafeirws yn Wuhan, Tsieina, yn ystod mis Rhagfyr 2019. Er ei fod wedi aros yn Tsieina rhan fwyaf, mae coronafeirws wedi cyrraedd cyn belled â UDA, Ffrainc, Yr Almaen, Awstralia, Japan, De Korea, Yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Y Ffindir, a’r DU.
Mae’r math yma o goronafeirws yn cael ei adnabod fel coronafeirws Newydd (2019-nCoV).
Os ydych yn denant Adra ac wedi gorfod ynysu eich hunain, oherwydd pryderon Crornafeirws, a wnewch chi roi gwybod i ni yn Adra os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu trefnu’r gefnogaeth a gofal mwyaf addas ar eich cyfer, ac er mwyn i ni fod yn ymwybodol. Ni fydd hyn yn effeithio o gwbl ar eich tenantiaeth. Cysylltwch er mwyn cael sgwrs: 0300 123 8084.
Dylech ynysu eich hunain os oes siawns bod gennych chi goronafeirws, ffoniwch y rhif 111 ac ynyswch eich hun oddi wrth bob eraill.
Mae hyn yn golygu y dylech:
- Aros adref
- Peidiwch â mynd i’r gwaith
- Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus na thacsis
- Gofynnwch i ffrindiau, aelodau teulu neu wasanaethau dosbarthu i wneud / dosbarthu eich neges
- Trïwch osgoi gael unrhyw ymwelwyr yn eich cartref – Mae’n iawn i ffrindiau, teulu neu yrwyr cyflenwi i ddod â’ch bwyd at y drws
Cyngor i chi a’ch teulu
Mae Prif Swyddog Meddygol y DU wedi codi risg y cyhoedd o isel i cymhedrol. Ond mae’r risg i unigolion yn parhau i fod yn isel.
Mae gweithwyr proffesiynol Iechyd yn ceisio cysylltu hefo unrhyw un sydd wedi bod mewn cyswllt agos hefo bobl sydd gan goronafeirws.
Symptomau Coronafeirws
Y symptomau ar gyfer coronafeirws ydi:
- Tagu
- Tymheredd uchel
- Byr eich gwynt
Ond dydi’r symptomau yma ddim yn golygu bod gennych chi’r salwch o reidrwydd.
Mae’r symptomau yma yn debyg i salwch eraill sy’n fwy cyffredin, fel annwyd a ffliw.
Does ‘na ddim brechlyn ar gyfer coronafeirws ar hyn o bryd, serch hyn mae ‘na bethau gallwn ni gyd wneud er mwyn ei rwystro rhag ledaenu.
Gallwch leihau eich risg o ddal / lledaenu coronafeirws wrth:
- Osgoi cyswllt uniongyrchol rhwng eich dwylo a’ch llygaid, trwyn a cheg
- Osgoi cysylltiad gyda bobl sydd â salwch resbiradol, osgoi defnyddio eu eitemau personol fel eu ffôn symudol;
- Cadw glendid llaw da, gan gynnwys golchi eich dwylo gyda sebon neu glanweithydd ar ôl tagu, tisian neu mynd i’r tŷ bach, a chyna c ar ôl bwytac yfed;
- Gorchuddio eich trwyn a’ch ceg wrth dagu neu disian gyda tisw a’u gwaredu nhw yn y bin sbwriel agosaf ar ôl defnyddio.
Mae Prif Swyddogion Meddygol y DU yn cynghori unrhyw un sydd wedi teithio i’r DU o Tsieina, Gwlad Tai, Siapan, Gweriniaeth Korea, Hong Kong, Taiwan, Singapore, Malaysia neu Macau yn ystod y 14 diwrnod diwethaf i aros tu mewn a ffonio eu GP neu’r GIG drwy ffonio 111 yn syth hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau o’r firws.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: