Hel atgofion cymunedau Adra
Oes gennych chi hen luniau o fywyd ar stadau tai Adra yn ardaloedd Penrhyndeudraeth, Deiniolen a Nefyn ac yn fodlon eu rhannu ar gyfer arddangosfa arbennig yr Haf hwn?
Mae Tîm Cymunedol Adra yn gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn trefnu arddangosfa ar faes Prifwyl Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ger Pwllheli. ‘Balchder Bro’ fydd thema’r arddangosfa a’r bwriad yw dathlu bywyd ar stadau tai lle mae gan Adra gartrefi ar hyn o bryd.
Y gobaith yw y bydd y lluniau yn adlewyrchu cymunedau lleol a beth mae cymuned yn ei olygu i drigolion. Bydd cyfres o fideos byr yn cael eu harddangos yr un pryd.
Bydd sesiynau galw i mewn yn cymryd lle yn y lleoliadau canlynol er mwyn i bobl ddod draw am baned a chacen a rhannu eu lluniau a’i hatgofion:
Dydd Mawrth, 23 Mai – Y Ganolfan, Nefyn rhwng 3pm a 5pm
Dydd Mercher, 24 Mai – Caffi EB, Deiniolen rhwng 4pm a 6pm
Dydd Iau, 25 Mai – Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth rhwng 4pm a 6pm.
Dywedodd Sion Eifion Jones, Swyddog Cymunedol gydag Adra: “Roedd swyddogion yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn am gael cydweithio ar brosiect cymunedol fyddai’n hyrwyddo dyfodiad yr Eisteddfod i Wynedd ond hefyd yn gadael gwaddol ar ôl i’r Eisteddfod adael y fro.
“Y gobaith yw y bydd y prosiect Balchder Bro yn rhoi cyfle i bobl rannu straeon o fyw ar stadau tai dros y blynyddoedd, rhannu gwybodaeth am fywyd a chymeriadau a beth oedd yn unigryw am eu cymunedau nhw. Beth gwell na hel atgofion a chael hwyl dros baned a chacen?”
Meddai Gwenllian Carr o’r Eisteddfod Genedlaethol, “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r prosiect hyfryd hwn gan Adra. Mae’n gyfle i bobl ddod at ei gilydd i hel atgofion ac i gymdeithasu yn eu cymunedau, ac mae’n ddathliad arbennig o’r rol bwysig sydd gan Adra yn ein cymunedau yng Ngwynedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld penllanw’r prosiect ar stondin Adra ar y Maes eleni.”
Bydd yr arddangosfa yn ymddangos ym mhabell Adra yn yr Eisteddfod gydol yr wythnos (Awst 5-12)