Hwb Datgarboneiddio yn ateb y bwlch mewn sgiliau yng ngogledd Cymru 

Mae hwb sy’n torri tir newydd yng Ngwynedd wedi hyfforddi dros 800 o grefftwyr lleol mewn sgiliau retroffit a sgiliau gwyrdd yn y flwyddyn gyntaf o’i fodolaeth. Hefyd, mae wedi cefnogi 173 o bobl drwy fenter sgiliau a chyflogaeth. 

Mae Tŷ Gwyrddfai, partneriaeth rhwng Adra, Prifysgol Bangor, a Grŵp Llandrillo Menai, wedi ateb y bwlch mewn sgiliau yng ngogledd Cymru gyda dros 200 o fusnesau yn mynychu cyrsiau yn 2024.  Mae’r hwb datgarboneiddio, y cyntaf o’i fath yn dod â’r sectorau tai, addysg bellach ac addysg uwch at ei gilydd gan olygu eu bod yn cydweithredu mewn ffordd sy’n torri tir newydd.  Gyda noddwyr strategol ag enw da fel Travis Perkins, Saint-Goabin, a Nuaire, mae’n brosiect hollol unigryw. 

Mae Tŷ Gwyrddfai yn gyfleuster ymchwil gweithredol lle mae amodau hinsoddol yn cael eu rheoli. Mae cynhyrchion tai newydd yn cael eu profi (mewnol ac allanol) a darperir dilysiad gwyddonol ar gyfer cynhyrchion sydd ar y farchnad yn barod.  Mae’r hwb hefyd yn uwch sgilio mentrau bach a chanolig lleol yn y sgiliau gwyrdd diweddaraf i gefnogi rhaglen ôl-osod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.   

Mae Academi Adra, menter sy’n cynnig datblygu cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau ar gyfer tenantiaid Adra, yn cryfhau diwylliant o ddysgu a thwf yn y gymuned.  Caiff ei gydnabod ar gyfer ei gyfraniadau sylweddol i ddatblygiad tai ar lefel genedlaethol a chymunedol a hyd yn hyn mae 173 wedi cymryd rhan.  Mae’r prosiect wedi’i gyllido gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).  

Mae prosiect Tendra yn 2024, wedi cefnogi 20 o fusnesau adeiladu lleol i roi bid am gontractau a sefydlu cynaliadwyedd yn y tymor hir.  Yn cael ei gyllido gan Arfor ac yn gweithredu yn uniongyrchol o Dŷ Gwyrddfai, roedd Tendra yn cynnig sesiynau hyfforddi ar gaffael, gwerth cymdeithasol, iechyd a diogelwch, a phrisio gwaith.  Y nod oedd cefnogi’r economi leol a chadw contractwyr lleol mewn gwaith yn lleol.  Mae llawer o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal yn Nhŷ Gwyrddfai, lleoliad canolog yng Ngwynedd sy’n golygu ei fod yn fan cyfarfod cyfleus i lawer. Yn 2024, cafodd 35 o ddigwyddiadau allanol yn ymwneud â datgarboneiddio eu cynnal.  

Dywedodd Rhys Roberts, Rheolwr Busnes a Datblygu Tŷ Gwyrddfai.  

“Un o’r heriau y mae Adra wedi dod ar ei draws yw’r angen am arloesi ac addasu parhaus i dechnolegau a deunyddiau newydd,  Mae ehangu Tŷ Gwyrddfai yn ganolog i ateb yr her yma, oherwydd ei fod yn hybu arloesedd mewn cynhyrchion a thechnolegau newydd.   

“Mae Adra yn rhagweld heriau yn berthnasol i gynyddu’r mentrau yma a sicrhau bod holl gartrefi yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023, ac yn cyflawni isafswm sgôr EPC C erbyn 2020, ar gyfer holl gartrefi Adra. Ni fyddai hyn yn bosib heb y bartneriaeth gadarn rhwng y tri phartner.  Mae Adra yn darparu’r cartrefi a’r gweithlu, Prifysgol Bangor yn datblygu ac yn profi cynhyrchion datgarboneiddio newydd, ac mae adain busnes Grŵp Llandrillo Menai, Business@Llandrillo Menai yn darparu’r hyfforddiant parhaus.   

Hyd yma mae Tŷ Gwyrddfai wedi hyfforddi 824 o grefftwyr o Adra a’r gadwyn gyfenwi lleol mewn sgiliau retroffit a sgiliau gwyrdd.”  

Ym mis Tachwedd 2024, cafodd Tŷ Gwyrddfai ei agor yn swyddogol gan Ken Skates, AS, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a gogledd Cymru.  Tynnodd y digwyddiad sylw at bwysigrwydd yr agenda datgarboneiddio ac ymdrechion ar y cyd Adra, Prifysgol Bangor, a Grŵp Llandrillo Menai.  Yn ystod yr ymweliad, ymwelodd Mr. Skates â’r cyfleuster ymchwil a datblygu arloesol yma sy’n canolbwyntio ar brofi a threialu technoleg a deunyddiau newydd.  Canmolodd yr hwb am ei gyfraniadau i ddatgarboneiddio cartrefi, sy’n darparu sgiliau a hyfforddiant hanfodol, ac sy’n dod â phrif bartneriaid at ei gilydd yn y rhanbarth.   

Am wybodaeth pellach, cysylltwch gyda Rhys Roberts ar info@tygwyrddfai.cymru