Hwb i Ogledd Cymru wrth i ni anelu at adeiladu 1,200 o gartrefi newydd
Rydan ni yn anelu at fuddsoddi £198 miliwn gyda phartneriaid i adeiladu mwy na 1,200 o gartrefi newydd gan fynd i’r afael â’r argyfwng tai ac effaith COVID ar draws gogledd Cymru.
Mae ein Bwrdd wedi ymrwymo i’w raglen ddatblygu uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf ar draws pob daliadaeth gan gynnwys rhent cymdeithasol, tai fforddiadwy i’w rhentu neu brynu.
Bydd gwerthu tai ar y farchnad agored hefyd yn rhan o’r rhaglen ddatblygu drwy Medra, ein is-gwmni. Bydd unrhyw elw drwy werthu ar y farchnad agored yn cael ei ail fuddsoddi yn Adra gydag arian datblygu’r elusen yn cael ei gryfhau drwy gyfraniadau Rhodd Cymorth a fydd o gymorth i gefnogi ac adfywio cymunedau.
Fel rhan o’r rhaglen ddatblygu, byddwn yn targedu arian grant gan Lywodraeth Cymru gan fod ganddynt ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar draws Cymru erbyn 2021.
Gyda 9,000 o bobl ar y gofrestr tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru, mae ein cynlluniau twf yn cydfynd â Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru ac mae’n hwb i bobl ifanc lleol gan greu cyfleoedd am swyddi ac yn gyrru cynaladwyedd drwy fynd i’r afael â’r angen mawr am gartrefi fforddiadwy yng ngogledd Cymru.
Rydan ni hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd i ganolbwyntio ar yr angen am lefydd byw i ddoctoriaid, nyrsys a gweithwyr allweddol eraill yn sgil y pandemig a’r problemau recriwtio sy’n wynebu’r sector.
Mae ein strategaeth ddatblygu arloesol yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi’r iaith Gymraeg, darparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol sydd wedi cael eu prisio allan o’r farchnad gan brisiau wedi chwyddo gyda gwerthu ail gartrefi ar draws gogledd Cymru.
Bydd cyflwyno ein rhaglen ddatblygu yn cefnogi busnesau bach a chanolig lleol yn benodol gan ganolbwyntio ar gadwyn gyflenwi leol a chryf a fydd yn creu gwariant yn lleol.
Iwan Trefor Jones yw ein Dirprwy Brif Weithredwr ac ef sy’n gyfrifol am y rhaglen ddatblygu a rheoli asedau’r landlord cymdeithasol. Dywedodd:
“Rydym yn falch o’r rhaglen ddatblygu sy’n galluogi Adra i arwain gan weithio gydag ystod o bartneriaid i ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd. Rydym yn bod yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol i gefnogi cymunedau gwledig a threfol lle mae yna alw mawr a gwir angen am gartrefi fforddiadwy lleol.
“Mae’n creu pryder mawr i ni fod 60% ar gyfartaledd o gartrefi yng Ngwynedd er enghraifft yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Amcan ein rhaglen datblygu o’r newydd yw sicrhau bod tai fforddiadwy newydd ar gael i bobl ifanc a theuluoedd lleol.
“Rydym eisiau cydweithio ymhellach gyda’r sector breifat a cyhoeddus i gyflawni cyfleoedd gweithio mewn partneriaeth gan fod yn arloesol yn y ffordd o gael arian i ddatblygu ynghyd â mentrau ar y cyd.”
Dywedodd Craig ab Iago, Cynghorydd Gwynedd ac Aelod Cabinet Tai:
“Diffyg opsiynau tai ar gyfer pobl leol yw un o brif heriau yng Ngwynedd heddiw a dwi’n gobeithio y bydd twf Adra yn gwneud gwahaniaeth. Dwi’n awyddus i weld y cartrefi yma yn cael eu hadeiladu yng Ngwynedd i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein cymunedau ac i ymateb i’r angen mawr am dai ar gyfer pobl leol ynghyd â darparu cyfleoedd a swyddi yn lleol.
“Mae’n hanfodol bod Cyngor Gwynedd ac Adra yn gweithio mewn partneriaeth agos i sicrhau tegwch i bobl leol a dwi’n edrych ymlaen at barhau gyda’r bartneriaeth. Dwi’n gweld gwerth mewn datblygu ac adeiladu’r cartrefi yma, ond hefyd yn croesawu ymrwymiad Adra a’r flaenoriaeth maen nhw’n ei roi i denantiaid presennol yng Ngwynedd, dwi’n hyderus y bydd hyn yn parhau.”
Dywedodd Lynn Rowlands, ein Aelod Bwrdd ac un o’n tenantiaid:
“Mae’n newyddion gwych i breswylwyr bod Adra yn parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau ar draws gogledd Cymru, gan arwain i gefnogi twf cynaliadwy a fydd yn buddio cwsmeriaid presennol a rhai newydd. Yn ei dro, bydd y rhaglen ddatblygu yn galluogi Adra i greu incwm pellach i gefnogi amcanion cymdeithasol i ariannu cartrefi fforddiadwy newydd.”
Rydan ni yn berchen ac yn rheoli 6,300 o gartrefi ar draws gogledd Cymru. Cawsom ein sefydlu yn 2010 drwy Drosglwyddo Stoc ar Raddfa Fawr o Cyngor Gwynedd. Ers hynny, rydym wedi buddsoddi mwy na £150miliwn yn adnewyddu stoc bresennol ac adeiladu cartrefi newydd.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen waith ôl trosglwyddo i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn 2015, dechreuom ar raglen ddatblygu newydd i gynorthwyo i gwrdd â’r galw am dai fforddiadwy. Pum mlynedd yn ddiweddarach, rydym wedi darparu 220 o gartrefi newydd ac erbyn hyn, mae’n cael ei gydnabod fel cymdeithas allweddol o ran datblygu tai newydd fforddiadwy yng ngogledd Cymru.