Hyrwyddo Academi Adra mewn cynhadledd genedlaethol
Cafodd ein cynllun cyflogaeth a sgiliau ei drafod a’i rannu mewn cynhadledd dai yr wythnos yma.
Cymerodd tîm Academi Adra ran yn Un Gynhadledd Tai Fawr 2024 a gynhaliwyd yn Llandrindod lle buont yn rhannu eu profiadau â chynadleddwyr.
Lansiwyd Academi Adra ym mis Mawrth 2021 i gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gyflogaeth ar draws gogledd Cymru. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwella rhagolygon swyddi trwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, lleoliadau i raddedigion a chynlluniau hyfforddi.
Hyd yma, mae 125 o unigolion wedi cael cymorth i gael hyfforddiant a/neu brofiad gwaith; mae 19 o bobl wedi cael profiad gwaith a 30 wedi’u cefnogi gyda phrentisiaethau.
Yn ystod y gynhadledd, rhoddodd tîm Academi Adra flas ar rai o’r cyrsiau adeiladu a gwasanaethau cwsmeriaid sydd wedi’u cynnal.
Amlygwyd nifer o’n hymgyrchoedd hefyd, gan gynnwys Nid Dim Ond i Fechgyn, sef ymgyrch i annog merched ifanc i ystyried gyrfa yn y sector tai ac adeiladu, yn ogystal ag Iaith ar Daith, sioe deithiol Gymraeg i ysgolion uwchradd gyda’r blogiwr, y dylanwadwr a’r cyflwynydd Ameer Rana Davies.
Dywedodd Elin Williams, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Adra: “Roedd yn gyfle gwych i ni arddangos gwaith Academi Adra i gynulleidfa genedlaethol ac roedd yn anrhydedd cael ein gwahodd i gymryd rhan.
“Bu inni achub ar y cyfle i dynnu sylw at rai o’r heriau lleol sy’n wynebu pobl, gan gynnwys cyflogaeth dymhorol, tlodi tanwydd a diweithdra; yn ogystal â diffyg profiad, sgiliau a chefnogaeth.
“Roedden nhw ymysg rhai o’r prif resymau i ni gychwyn y gwaith yn Adra, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu ac i gael effaith gadarnhaol, hirdymor ar leihau anghydraddoldebau o fewn cymdeithas.
“Teimlwn fod Academi Adra yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl drwy ddarparu’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd, i gael mynediad at swyddi ac i gael y profiad a fydd yn eu cynorthwyo yn y tymor hwy”.