Hyrwyddo diogelwch yn eich cartref

Oeddech chi’n gwybod bod yr wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Diogelwch a Chydymffurfiaeth Tai Cymdeithasol?

Rydym yn cefnogi ymgyrch genedlaethol eleni sy’n edrych ar y gwaith sy’n cael ei wneud o fewn y sector tai cymdeithasol i gadw tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi.

Dywedodd Ian Roberts, ein Pennaeth Eiddo (Refeniw): “Mae diogelwch ein tenantiaid a’u cartrefi yn bwysig iawn i ni ac mae wythnosau ymwybyddiaeth fel hyn yn gyfle gwych i dynnu sylw at y gwaith rydym yn ei wneud.

“Rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch ar bethau fel nwy, trydanol a diogelwch tân ac yn trefnu apwyntiadau i wneud y gwaith.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n gallu cael mynediad i gartrefi pan rydyn ni’n gwneud apwyntiadau fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod popeth mewn trefn a’ch bod chi a’ch teulu yn ddiogel.

“Os nad yw amser yr apwyntiad yn gyfleus, gofynnwn i chi gysylltu â ni cyn gynted â phosib fel y gallwn ail-drefnu amser mwy cyfleus”.

Cliciwch ar ein tudalen Diogelwch yn eich Cartref i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith rydym yn ei wneud o gwmpas diogelwch tân, trydanol a nwy, yn ogystal ag asbestos, hylendid dŵr a legionella.