Aled Davies speaking at the conference.

Hyrwyddo ein hymdrechion i gefnogi’r Gymraeg

Cafodd ein hymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg ei amlygu mewn cynhadledd iaith yng Nghaerdydd heddiw.

Aled yn siarad fel rhan o banel yn y gynhadledd.

Roedd Aled Davies, ein Pennaeth Llywodraethu yn rhan o banel mewn cynhadledd a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo’r Safonau Iaith Gymraeg fydd yn cael eu cyflwyno i’r sector dai. Yn y gynhadledd cafwyd cyflwyniadau am rôl Comisiynydd y Gymraeg, y gwaith o hybu’r iaith, rhannu profiadau sefydliadau a gweithredu’r Safonau Iaith.

Dywedodd Aled: “Roedd hi’n wych cael y cyfle i siarad o flaen nifer o sefydliadau eraill i drafod ein profiad ni o ddefnyddio a hybu’r Gymraeg.   Mae’r Iaith Gymraeg yn rhan bwysig o’n diwylliant ac rydym yn defnyddio pob cyfle i hyrwyddo defnydd o’n gwasanaethau Cymraeg, boed hynny yn cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol blynyddol neu’n hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y gweithle.

“Mae’r Gymraeg yn iaith i bawb, ag yn iaith statudol yng Nghymru ac felly mae’n holl bwysig fod sefydliadau Cymreig yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.  Hawliau dynol ‘da ni’n sôn amdano, ac mae sicrhau darpariaeth ddwyieithog yn hanfodol i gymdeithasau tai sydd yn darparu cartrefi i ganran uchel o drigolion Cymru.

“Rydym hefyd yn angerddol dros hyrwyddo’r iaith Gymraeg a helpu i gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Rydym yn grediniol mai drwy gydweithio agos rhwng sefydliadau y gellir gneud y gwahaniaeth mwyaf, gan roi hyder i bobl i ddefnyddio’r iaith sydd ganddynt.

“Bydd y Safonau Iaith yn dod i rym yn y dyfodol agos a rhaid i ni gyd gamu i fyny i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cydymffurfio â’r safonau.

“Mae hyn yn rhywbeth y dylem ei hyrwyddo fel sector, ac ni ddylid edrych ar y gwaith fel proses o gydymffurfio, ond yn hytrach, fel proses a fydd yn sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaeth o’r ansawdd gorau posibl i’n cwsmeriaid, ac yn sicrhau dyfodol disglair i’r Gymraeg”.