Hyrwyddo gyrfa ym maes adeiladu i ferched
Cafodd dros 65 o ferched o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes flas o weithio ym maes adeiladwaith fel rhan o ddigwyddiad er mwyn annog mwy o ferched i ystyried gyrfa yn y diwydiant.
Adra, darparwr tai fforddiadwy arweiniol gogledd Cymru oedd yn arwain ar y digwyddiad yma ar y cyd hefo Chwarae Teg, sef elusen sy’n ysbrydoli, arwain a gweithredu cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Trefnwyd y digwyddiad o gydfynd a Diwrnod Rhyngwladol y Merched (Dydd Mercher 8 Mawrth).
Yn ystod y rhan gyntaf y digwyddiad, daeth rhai aelodau staff Adra i roi cyflwyniad a bod ar banel sgwrsio am y maes adeiladu a’r heriau a’r buddiannau o weithio yn y maes tai a’r maes adeiladu.
Roedd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra, sy’n rhan o Uwch Dîm Adra yn bresennol yn y digwyddiad a rhannodd ei phrofiadau gyda’r disgyblion.
Dywedodd Sarah:“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni yn herio’r stereoteip bod yna swyddi i ferched a swyddi i ddynion, does yna ddim ffasiwn beth ac rydan ni mor falch o weld yr amrywiaeth yma yn Adra a gallu rhannu hyn efo disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle, i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched mewn ysgol mor agos i’n hwb Datgarboneiddio newydd, sef Tŷ Gwyrddfai.
“Rydan ni hefyd yn falch o gymryd mantais o ddiwrnod fel Diwrnod Rhyngwladol y Merched i dynnu sylw a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael i ferched o fewn meysydd sydd yn draddodiadol gyda llawer iawn mwy o ddynion yn y swyddi na merched.
“Hoffem ddiolch o galon i Ysgol Dyffryn Nantlle am y croeso ac i’r disgyblion am fod yn wych, a diolch yn fawr i’r holl arddangoswyr hefyd.
Roedd ail ran y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Nhŷ Gwyrddfai, Hwb Datgarboneiddio newydd Adra ym Mhenygroes.
Yma roedd arddangoswyr fel Dŵr Cymru, CIST/Grŵp Llandrillo Menai, Weber, Marley Solartiles a Travis Perkins yn bresennol i gynnal gweithgareddau ymarferol gyda’r disgyblion.