Lansio Academi Adra i gynyddu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc yng ngogledd Cymru
Mae hi’n Wythnos Prentisiaethau Cymru yr wythnos yma (08/02/2020) ac rydan ni wedi lansio ein academi newydd gyda’r nod o gefnogi mwy na 60 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gyfleoedd gwaith ar draws gogledd Cymru erbyn 2022.
Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac ehangu opsiynau cyflogadwyedd drwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, lleoliadau graddedig a chynlluniau hyfforddi; rydym yn dechrau ein dau leoliad mis yma fel rhan o’r Cynllun Kickstart cenedlaethol, sy’n creu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol ac sydd mewn risg o fod yn ddi-waith yn hirdymor.
Rydym yn cyflwyno cyfleoedd i’w cwsmeriaid drwy’r gwasanaethau y maen nhw’n rhedeg, buddsoddiad uchelgeisiol a’u rhaglen ddatblygu. Mae’r ddau leoliad gwaith cyntaf yn cynnwys datblygu sgiliau gwasanaeth cwsmer o fewn ein Canolfan Alwadau wrth weithio o bell adref, oherwydd cyfyngiadau presennol COVID-19.
Wrth weithio hefo partneriaid drwy bartneriaeth Clarion Housing a thrwy’r cynllun Kickstart, bydd lleoliadau gwaith yr ydym yn eu cynnig yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy i bobl; bydd y lleoliadau gwaith yma ar gyfer siaradwyr Cymraeg a fydd yn eu cynorthwyo i gynyddu eu cyflogadwyedd a darparu profiad gwaith gwerthfawr, gyda’r nod o gynorthwyo pobl sy’n cymryd rhan i ddatblygu tuag at gyflogaeth tymor hir hefo ni Adra, a chyflogwyr eraill o fewn yr ardal.
Fel rhan o’n ymrwymiad i greu cyfleoedd i’w cwsmeriaid, mae’r darparwr tai wedi cyflogi pedwar prentis newydd, un trydanol, un plymiwr, a dau beintiwr ac addurnwr o fewn eu tîm Trwsio, gan ychwanegu at y nifer o brentisiaid sy’n gweithio o fewn eu rhaglen rheoli asedau a’u safleoedd adeiladu. Mae hyn oll yn rhan o’n prosiect sgiliau a chyflogadwyedd, Academi Adra.
Rydym hefyd wedi datblygu rhaglen hyfforddai tai ac maen nhw am fod yn recriwtio dau hyfforddai arall yn ystod yr wythnosau nesaf i ddysgu am reoli tai, gofal cwsmeriaid a chefnogi tenantiaid i gadw eu tenantiaeth. Byddwn hefyd yn cynnig pedwar cyfle am leoliad gwaith graddedig yn ystod 2021/22.
Mae Caleb Khan yn astudio ar gyfer Lefel 2 City & Guilds, Diploma NVQ mewn Gorffeniadau Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu) gyda Grŵp Llandrillo Menai. Wrth astudio’r cwrs yma mae’n cael hyfforddiant ymarferol wrth weithio fel prentis hefo ni.
Dywedodd Caleb o Gaernarfon: “Mae Adra wedi rhoi cyfle gwych i fi ddatblygu fy sgiliau fel prentis, gweithio hefo addurnwr a pheintiwr profiadol yn nhai Adra. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfle yma yn fawr a hoffwn ddiolch i Adra am eu cefnogaeth.”
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Cymuned a Phartneriaethau yma yn Adra: “Wrth i ni dyfu, rydym eisiau creu cyfleoedd ar gyfer ein pobl, gan ddechrau hefo’n cwsmeriaid. Trwy Academi Adra, rydym yn ceisio creu cyfleoedd gwaith gyda’n cynlluniau lleoliadau gwaith a’n rhaglenni hyfforddeion, graddedigion a phrentisiaethau, gan weithio hefo’n partneriaid gan dargedu ein cwsmeriaid ar draws gogledd Cymru sy’n wynebu gymaint o heriau ar draws y farchnad swyddi.
“Mae Kickstart yn gynllun gwych ar gyfer ein cwsmeriaid ifanc; gyda chyfyngiadau COVID rydym wedi gorfod arloesi a dod o hyd o ffyrdd newydd i ddarparu cyfleoedd. Rydym yn gweithio hefo’n partneriaid i ddarparu cyfleoedd prentisiaethau i weithio tu allan ar ein safleoedd adeiladu, yn ogystal â chefnogi busnesau bach a chanolig eu maint drwy ein gwaith buddsoddi.”
Dywedodd un busnes bach a chanolig ei faint sy’n gweithio hefo ni ar ein rhaglen Buddsoddi yw Williams Homes Bala, sydd hefyd newydd lansio eu Hacademi Prentisiaethau eu hunain, sy’n cynnig hyd at 10 cyfle prentis yn yr ardal. Dywedodd Owain Williams, Cyfarwyddwr Rheoli ar y cyd Williams Homes Bala: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth hefo Adra gyda’r nod o ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl leol.”
Am fwy o fanylion gwaith gan gynnwys lleoliadau gwaith, rhaglenni hyfforddi a phrentisiaethau, cysylltwch hefo Elin Williams yma yn Adra os gwelwch yn dda drwy ffonio 0300 1238084 neu e-bostio: elin.willams@adra.co.uk