Llwyddiant codi arian at achos da

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn codi arian tuag at Gymdeithas Gleifion Arennau Ysbyty Gwynedd fel ein helusen swyddogol.

Roedd hon yn elusen oedd yn agos at galonnau llawer o’n cydweithwyr am nifer o resymau gwahanol.

Rydym wedi codi arian mewn sawl ffordd, drwy gymryd rhan mewn teithiau cerdded fel cwmni, cymryd rhan yn y Clwb Cant misol, Adra yn talu £1 tuag at yr elusen am bob arolwg staff a gwblhawyd, gwasanaeth carolau, cystadleuaeth golff a drwy gymryd rhan mewn ras rhedeg ym Mae Colwyn yn ddiweddar.

Ar y cyfan, gyda chymorth pawb, fel cwmni rydym wedi llwyddo i godi £7,592.43! I elusen lle gall dim ond £15 wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun, mae hynny’n anhygoel!  Diolch o galon i chi i gyd am eich ymdrechion a’ch cefnogaeth.

 

I ddathlu diwedd ein partneriaeth gyda’r Gymdeithas, rydym wedi bod yn sgwrsio gydag aelodau o’n staff, o’r Gymdeithas ac o’r Uned Arennau yn Ysbyty Gwynedd i glywed pwysigrwydd cyd-weithio a chodi arian tuag at Gymdeithas fel hon: