Mae Adra yn croesawu penderfyniad cynllunio
Mae Adra, un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy gogledd Cymru, yn croesawu’r penderfyniad cynllunio ar gyfer 30 o dai fforddiadwy i bobl leol ym Methel, Gwynedd.
Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi i ddatblygu’r safle gyferbyn â Stad Cremlyn ym Methel i gynnwys 30 o gartrefi modern, gan gynnwys 22 o dai, 4 byngalo, a 4 fflat sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd.
Yn dilyn cael caniatâd cynllunio ym mis Rhagfyr 2023, bydd y gwaith yn ddechrau ar y safle yn yr haf.
Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu ac Asedau Adra: “Rydym yn falch bod y datblygiad hwn wedi cael caniatâd cynllunio, ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith yn dechrau ar y safle.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yng Ngwynedd a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd y gall pobl leol fod yn falch ohonynt, sy’n effeithlon o ran ynni, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi.”
Y gobaith yw y bydd y cartrefi wedi eu cwblhau erbyn dechrau 2026.
Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r cartrefi Rhent Cymdeithasol cofrestrwch gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd Cyngor Gwynedd. Os ydych wedi cofrestru am gartref cymdeithasol yng Ngwynedd yn barod, nid oes angen cofrestru eto. 01286 685100 | opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru
Os oes gennych ddiddordeb yn un o’r cartrefi Rhent Canolradd mae angen i chi gofrestru gyda Tai Teg www.taiteg.org.uk/cy/