Parhau i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol
Parhau i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol
Rydym wedi cyhoeddi ein hail adroddiad Gwerth Cymdeithasol, sy’n arddangos y gwaith sydd wedi’i wneud ar draws y busnes a gyda’i bartneriaid dros y 12 mis diwethaf i ddarparu gwerth cymdeithasol o £9.58 miliwn i gymunedau ar draws gogledd Cymru.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o brosiectau a gynhaliwyd yn ymwneud â phobl, cartrefi, cymunedau, yr amgylchedd, cynhwysiant ariannol, tai â chymorth, cyflogaeth, sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal â buddsoddiad cymunedol, y Gymraeg a diwylliant Cymru.
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o uchafbwyntiau i adlewyrchu effaith y gwaith hwn ar denantiaid a chymunedau:
- 231 o bobl wedi cael eu cefnogi i gyflogaeth a hyfforddiant
- £20,300 o grantiau wedi’u rhoi i grwpiau cymunedol lleol
- 95% o’n tenantiaid yn fodlon gyda’r ffordd yr ydym yn atgyweirio a chynnal a chadw ein cartrefi, gan gynnwys gwasanaethu ac atgyweirio nwy
- Derbyniodd 105 o’n cartrefi waith effeithlonrwydd ynni
- £706,902 wedi’i fuddsoddi ar addasiadau o fewn cartrefi
- 250 o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu
- Rhoddwyd 518 o dalebau banc tanwydd
- Cefnogir 493 o ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig
- Cynhyrchwyd £432,382 o werth cymdeithasol drwy gontractau ac isgontractwyr
- Buddsoddwyd 15.2m mewn gwaith mawr a gwelliannau i eiddo
- Cefnogir 152 o bobl drwy ein gwasanaeth Cefnogi Tenantiaeth
- Cyhoeddwyd 81 o dalebau ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol
Darllen ein ail hadroddiad gwerth cymdeithasol
Dywedodd ein Prif Weithredwr, Iwan Trefor Jones: “Rydym am gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn ogystal â’r gymuned ehangach. Mae’r ymrwymiad hwnnw wedi’i adlewyrchu yn ein Cynllun Corfforaethol sy’n amlygu egwyddorion arweiniol ein gwaith.
“Rydym yn fwy na darparwr cartrefi yn unig. Rydym yn chwarae rhan arwyddocaol wrth adfywio ein cymunedau, gan weithio gyda phartneriaid i wella ansawdd bywyd ein holl drigolion.
“Rydym eisiau darparu cyfleoedd i bobl gael mynediad at swyddi a hyfforddiant o safon trwy ein rhaglen flaenllaw Academi Adra.
“Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod y contractwyr rydym yn eu cyflogi i wneud gwaith yn y gymuned yn darparu buddion ychwanegol trwy fuddsoddiad a mentrau yn ein cymunedau.
“Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn parhau i chwarae rhan mewn adfywio’r economi ranbarthol, gan ddarparu cyfleoedd lleol i bobl leol, tra’n parhau i warchod a gwella ein treftadaeth gyfoethog, ein diwylliant a’r iaith Gymraeg.
“Un o’r datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf fu creu Tŷ Gwyrddfai, ein hyb datgarboneiddio ym Mhenygroes. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i greu cyfleoedd i hyfforddi ein gweithlu presennol a myfyrwyr ar brosesau sy’n ymwneud â datgarboneiddio cartrefi, i wneud ein cartrefi’n effeithlon o ran ynni ac i sicrhau cryfder y gadwyn gyflenwi leol.
“Uchafbwynt arall yn ein blwyddyn brysur oedd ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan – cyfle gwych i siarad gyda thrigolion ac ymwelwyr am y gwaith rydym yn ei wneud mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru”.
Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd ein Bwrdd: “Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau ac unigolion ar draws Gogledd Cymru i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a sicrhau bod cymunedau’n ffynnu.
“Mae gennym ni ystod eang o bartneriaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw bob dydd ac mewn pob math o feysydd, o ddelio â thlodi i ddatblygu cartrefi newydd, o greu cyfleoedd hyfforddi i brosiectau cymunedol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd.
“Trwy gydweithio â’n tenantiaid, staff, partneriaid, a chymunedau ehangach, rydym yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl”.