Yr Hen Balas, Stryd Fawr, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0RQ
Fflat 1 llofft yn Sir Ddinbych
1 1 1
Disgrifiad Llawn:
Fflatiau un neu stiwdio cyfforddus ar gael ar loriau gwaelod, 1af, 2il a 3ydd heb eu dodrefnu.
Wedi eu lleoli yn ninas Llanelwy.
Mae’r fflatiau yn cynnwys:
- Cegin
- System ‘key fob’
- Gardd gymunedol
- Safle parcio
- Lifft
- Gwasanaeth Warden
- System larwm argyfwng
- Chawod mynediad isel
Tâl Gwasanaeth yn cynnwys costau gwresogi cymunedol a personol.
Cofrestrwch gyda SARTH er mwyn gwneud cais am un o’r fflatiau yma.
Os hoffech weld yr eiddo yma cysylltwch gyda ni.
Lleoliad:
Ydych chi wedi ystyried byw mewn Cartref Cefnogol?
Gall byw yn un o’n cartrefi cefnogol fod yr ateb perffaith i chi os hoffech mymryn mwy o gefnogaeth neu byw mewn cartref sydd yn llai a haws
ei reoli.
Mae’r rhain fel arfer ar gyfer pobl 55 neu hŷn.
Un lleoliad o’r fath yw’r Hen Balas. Dyma adeilad hardd llawn cymeriad. Mae gan pob cartref yn yr Hen Balas system larwm argyfwng a gwasanaeth Warden, nodweddion sydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi fod cymorth ger-llaw trwy’r adeg.
Mae ardal gymunedol a llefydd parcio yn yr Hen Balas, ond yr ardd gymunedol yw un o’r prif nodweddion yma. Mae’r ardd gymunedol yn leoliad perffaith i ymlacio a chael pum munud o heddwch, fel tenant yma gallwch fwynhau gweld y tymhorau yn newid o’ch cartref.