Eiddo 3 Ystafell Wely – Cynllun Rhan Berchnogaeth – Llai
Tŷ pâr yn Sir Wrecsam
3 1
Disgrifiad Llawn:
Eiddo deiniadol ar gael trwy’r cynllun rhan berchnogaeth.
Mae’r eiddo ar datblygiad Maes Yr Rhedyn gan ddatblygwyr Anwyl yn Llai ger Wrecsam.
Plot 232 – 5 Llys Gardner, Llai, Wrecsam,, LL12 0QU
Bydd angen i chi gofrestru gyda Tai Teg er mwyn gwneud cais am y cartref yma yn ogystal a chyrraedd y meini prawf.
Meini prawf
Blaenoriaeth 1
Preswylio neu gyda teulu agos yn ardal Cyngor Cymuned Llai am flwyddyn cyn daliadaeth neu mewn cyflogaeth llawn amser o fewn ardal Cyngor Cymuned Llai am gyfnod o 6 mis cyn y daliadaeth arfaethedig.
Preswylio blaenorol neu gyda teulu agos yn ardal Cyngor Cymuned Llai am gyfnod o 5 mlynedd di-dor neu cyflogaeth blaenorol o fewn ardal Cyngor Cymuned Llai am gyfnod o 5 mlynedd
Os nad oes unigolyn yn cyrraedd y gofynion uchod gan Tai Teg ac ar ôl hysbysu / masnacha mewn papur newydd yn ardal Wrecsam am o leiaf 4 wythnos:
Blaenoriaeth 2
Fel yr uchod,ond ar gyfer ardaloedd
- Gwersyllt
- Yr Orsedd
- Ardal Cyngor Cymmuned Gresffordd
Blaenoriaeth 3
Os nad oes neb yn cyrraedd blaenoriaeth 1 na blaenoriaeth 2 ar ôl 8 wythnos byddwn yn agor i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Blaenoriaeth 4
Os nad oes ymgeisydd addas ym mlaenoriaeth 3 o fewn 12 wythnos – yna, bydd unrhyw berson, ym marn Adra neu’r Cyngor, sydd angen cartref yn cael ei drin fel person cymwys.
Am feini prawf cymhwysedd ac i wneud cais ewch i wefan Tai Teg.
Cyfrifiannell Rhan berchnogaeth:
Darganfyddwch faint o rent y byddech chi'n ei dalu trwy ddewis canran yr eiddo rydych chi am ei brynu.