Ysgol Pendref – Dinbych – 3 Ystafell Wely
Tŷ pâr yn Sir Ddinbych
3 2 1









Disgrifiad Llawn:
22 cartref ,3 ystafell wely (4/5 person) ar gael drwy’r cynllun Rhent Canolraddol ar safle Ysgol Pendref yn Dinbych.
Math o gartref: Tŷ Pâr – DQR / Hartford / Highfield
Datblygwr: Castle Green
Mae’r cartref yn cynnwys lolfa, cegin/ystafell fwyta, toiled ar y llawr gwaelod, 3 ystafell wely ac ystafell ymolchi.
Bydd gan bob cartref:
- Ffenesti gwydr dwbl a drysau Ffrengig yn agor i’r ardd
- Gardd flaen a chefn gyda gwair
- Pympiau gwres ffynhonell aer
- Ffitiadau golau ynni isel 100% trwy’r cartref
- Gardd gefn ddiogel
- Dreif breifat
- Cegin ac ystafelloedd ymolchi modern
Bydd angen talu 1 mis o rent o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaethm â rhent am y mis cyntaf. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS).
Bydd y cartrefi yn barod o fis Medi ymlaen.
Rhent yn cychwyn o £714.94 y mis.
Gwneud Cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y cartref yma, rhaid cofrestru a gwneud cais gyda Tai Teg.
Lleoliad:
Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr sydd wedi byw neu gweithio yn ardal Sir Ddinbych o fewn y 5 mlynedd diwethaf.
Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.