Prosiect Sero Net Gwynedd yn elwa o £300,000 gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Mae’r prosiect, a arweiniwyd gan Adra, yn bartneriaeth a sefydlwyd yn 2021 gyda’r nod o fynd ar afael ar faterion o dlodi tanwydd a datgarboneiddio ar draws Gwynedd.
Mae nifer o sefydliadau ar draws Gwynedd yn rhan o’r prosiect gan gynnwys, Cyngor Gwynedd, Grŵp Cynefin, DEG, Partneriaeth Ogwen, Ynni Llŷn, CydYnni, Siop Griffiths a MaesNi.
Dywedodd Gwen Thomas, Rheolwr y Prosiect: “Rydym yn falch iawn o allu parhau gyda’r gwaith yn dilyn derbyn £300,000 gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ddiweddar.
“Mae dwy elfen i’r prosiect, yr elfen gyntaf yw grymuso cymunedau. Byddwn yn rhoi cyngor i drigolion Gwynedd ar sut i; leihau eu defnydd o ynni, gwella effeithlonrwydd eu cartrefi, rhoi cymorth uniongyrchol iddynt yn ddibynnol ar eu sefyllfa.
“Byddwn hefyd yn cefnogi amryw o ddigwyddiadau cymunedol i ymgysylltu yn bellach gyda’r gymuned a chodi ymwybyddiaeth o ddatgarboneiddio.”
“Yr ail elfen yw’r Hybiau Cymunedol. Rydym yn cynnig adroddiadau datgarboneiddio ar gyfer adeiladau cymunedol, ac o’r adroddiadau hyn rydym yn mynd ati i wneud yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr adroddiad er mwyn gwellau effeithiolrwydd yr adeiladau hynny.”
Ychwanegodd Bharadwaj Raman, Cydlynydd Gwasanaeth Ynni DEG: “Rydym wrthi yn recriwtio tîm o Swyddogion Ynni hyfforddedig i ymweld â pherchnogion tai, rhentwyr preifat a thenantiaid tai cymdeithasol i roi cyngor ac arweiniad ar ddefnydd ac effeithlonrwydd ynni.
“Mae’r gwaith mae ein Swyddogion Ynni yn ei wneud yn cynnwys; codi ymwybyddiaeth o fanteision arbed ynni, rhoi cymorth ymarferol ar leihau costau ynni, rhoi cymorth ar sut i leihau’r defnydd o danwydd anghynaladwy, cefnogi preswylwyr i leihau eu defnydd o ynni, chwilio am atebion ymarferol i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, darparu offer arbed ynni er enghraifft bylbiau golau LED.”
“Yn ogystal, mae ein Swyddogion Ynni yn rhannu cyngor ymarferol am gamau y gellir eu cymryd i leihau effaith tlodi tanwydd a chyfeirio trigolion sydd mewn angen at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Gall ein Swyddogion Ynni helpu trigolion i gwblhau ffurflenni cais er mwyn derbyn budd-daliadau/grantiau priodol a helpu i gysylltu â darparwyr ynni er mwyn lleihau costau (trwy newid tariff neu newid cyflenwyr) er enghraifft.”
Ydych chi yn ymwybodol o adeilad cymunedol yn eich ardal chi a fyddai’n elwa o dderbyn adroddiad datgarboneiddio? Mae gan Brosiect Sero Net Gwynedd yr adnodd i gynnig nifer gyfyngedig o adroddiadau datgarboneiddio.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda amgylcheddol@adra.co.uk
Os ydych chi yn awyddus i gael cyngor am eich defnydd chi o ynni yn eich cartref, mae croeso i chi gysylltu â cymunedol@adra.co.uk