Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer!
Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o’r anrhydeddau yng Ngwobrau Northern Housing eleni- yng nghategori Datgarboneiddio.
Roedd ein cais yn cynnwys crynodeb o’n gwaith ym maes cynaliadwyedd a datgarboneiddio, gyda phwyslais arbennig ar y gwaith sy’n mynd ymlaen yn Nhŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai a CIST, y Ganolfan Seilwaith, Sgiliau a Thechnoleg. Roedd hefyd yn adlewyrchu’r cysylltiadau agos â chefnogi’r economi leol, creu cadwyni cyflenwi cryfach, darparu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol ac arloesi yn y rhaglen ddatgarboneiddio.
Rydym hefyd wedi canolbwyntio yn ein cais ar sut mae ein gwaith datgarboneiddio a chynaliadwyedd yn cysylltu â rhannau eraill o’r busnes, gan gynnwys y gwaith sy’n mynd rhagddo i gefnogi tenantiaid a’r cymunedau ehangach drwy ein gwaith ar dlodi tanwydd a gwneud ein cartrefi mor ynni effeithlon â phosibl. .
Dywedodd Sion Hughes, ein Cyfarwyddwr Polisi a Chyflawni: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae’n anrhydedd mawr i ni yn Adra weld ein gwaith yn cael ei gydnabod gan arbenigwyr yn y diwydiant. Rydym yn falch o’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud a’r cysylltiadau partneriaeth agos sydd gennym gyda Phrifysgol Bangor, Grŵp Llandrillo Menai a CIST, i enwi dim ond rhai.
“Tŷ Gwyrddfai yw’r canolbwynt datgarboneiddio cyntaf o’i fath yn y DU ac mae cryn ddiddordeb eisoes wedi bod yn y datblygiad a’r weledigaeth iddo fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer arloesi.
“Byddwn yn parhau, fel sefydliad i osod cynaliadwyedd wrth galon popeth a wnawn, trwy greu cartrefi cynaliadwy sy’n diwallu anghenion iechyd a lles ein tenantiaid, yn ogystal â sicrhau bod ein heiddo yn cyrraedd targedau ynni llym”.
Cyhoeddir enillwyr y gwobrau ddiwedd mis Mai.