Safon Ansawdd Tai Cymru
Croeso i Trosolwg SATC 2023
Rydym yn gyffrous i rannu ein fideo diweddaraf sy’n rhoi trosolwg cynhwysfawr o Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023.
Bydd y fideo hwn yn rhoi gwell syniad i chi o’r hyn sydd i ddod a sut y bydd y safonau hyn o fudd i chi a’ch cartref.
Beth ydi Safon Ansawdd Tai Cymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Safon 2023 sydd wedi ei greu i ddiweddaru tai cymdeithasol yng Nghymru mewn ffordd sy’n cyfrannu tuag at ganlyniadau cadarnhaol o ran iechyd, addysg a llesiant i denantiaid.
Mae’r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd y Safon yn rhoi cyfle i greu a chynnal ffyniant mewn cymunedau lleol drwy greu swyddi, hyfforddiant a phrentisiaid yn y gadwyn gyflenwi.
Mae’r Safonau yn amlinellu gyda beth mae disgwyl i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio. Mae disgwyl i bob cartref fod o safon uchel, bod yn iach i fyw ynddynt ac yn cwrdd ag anghenion cymunedol, teuluol ac unigol tenantiaid. Mae landlordiaid cymdeithasol yn cael eu hannog i drafod gyda thenantiaid i siapio eu rhaglenni gwaith ac i ystyried adborth gan denantiaid sydd wedi byw drwy waith ar eu cartrefi er mwyn gwella sut i gynnal a chadw, diweddaru a datgarboneiddio cartrefi yn effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol.
Mae’r Safon yn gosod y gofynion bod yr holl dai cymdeithasol yn cael eu diweddaru a’u cadw mewn cyflwr da fel bod tenantiaid cymdeithasol yn cael y cyfle i fyw mewn cartref sydd:
mewn cyflwr da.
- yn ddiogel.
- yn ynni effeithlon ac sy’n dda i’r amgylchedd
- yn cynnwys cegin ac ardal gyfleustodau modern.
- yn cynnwys ystafell ymolchi fodern.
- yn gyfforddus ac addas ar gyfer y tenantiaid.
- yn cynnwys gardd yn ddelfrydol.
- yn cynnwys llefydd tu allan braf, yn ddelfrydol.
Beth yw’r dyddiadau cau?
Dyma’r prif ddyddiadau rydym yn gweithio tuag atynt:
31 Mawrth 2025:
- Asesu cyflwr ein cartrefi i weld pa welliannau sydd angen. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r wybodaeth sydd gennym ac o bosib ymweld â rhai o’n cartrefi i wneud arolygiadau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os fydd angen i ni ddod i’ch cartref chi.
- Datblygu cynllun cynhwysfawr a chyllideb i ddiweddaru cartrefi i gyd fynd â’r safonau.
- Ymgysylltu gyda chi i rannu ein cynlluniau, casglu eich adborth a chodi ymwybyddiaeth o’r safon sydd wedi ei hadolygu.
- Diweddaru ein cynllun busnes i gynnwys y gwelliannau gofynnol i gydymffurfio â SATC 2023.
31 Mawrth 2027:
- Creu Llwybr Ynni wedi ei Dargedu (Targeted Energy Pathway – TEP) yn seiliedig ar asesiadau’r cartref. Bydd y TEP yn manylu ar y camau, gwaith ac amserlen ofynnol i wneud yn fawr o effeithlonrwydd ynni eich cartref gan wneud yn siŵr ei fod yn rhoi cynhesrwydd fforddiadwy.
31 Mawrth 2030:
- Sicrhau bod pob eiddo yn cyrraedd Tystysgrif Perfformiad Ynni (Energy Performance Certificate – EPC) sy’n o leiaf ‘C’
- .i gyrraedd y safon yma, rhaid i bob cartref fod wedi ei insiwleiddio’n dda, o leiaf.
31 Mawrth 2034:
- Cydymffurfiaeth lawn gyda safonau SATC 2023
Hyd yma, rydym wedi buddsoddi dros £295 miliwn yn ein cartrefi (sy’n cynnwys taliad Cyllid Llenwi Bwlch Gwaddol o £4.1 miliwn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru), i sicrhau eu bod yn cyrraedd y Safon Ansawdd Tai Cymru.
Safon ansawdd tai Cymru: trosolwg | LLYW.CYMRU
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0019-Copy-640x360-1.jpg)
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0034-640x360-1.jpg)
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0052-640x360-1.jpg)
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0053-scaled.jpg)
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0068-640x360-1.jpg)
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0269-640x360-1.jpg)
![](https://www.adra.co.uk/wp-content/uploads/2024/07/DJI_0568-640x360-1.jpg)
Lle ga’i fwy o wybodaeth?
Mae’r ddogfen SATC ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 | GOV.WALES