Saint-Gobain a Thŷ Gwyrddfai yn Dathlu Partneriaeth Newydd

Mae gweithgynhyrchwr datrysiadau adeiladu, Saint Gobain UK a chyfleuster datgarboneiddio blaengar Tŷ Gwyrddfai wedi dathlu’n ffurfiol eu partneriaeth sgiliau unigryw drwy gynnal diwrnod agored. Mae Tŷ Gwyrddfai yn brosiect uchelgeisiol a chydweithredol rhwng Adra, darparwr tai cymdeithasol mwyaf gogledd Cymru, Prifysgol Bangor a CIST, Business@LlandrilloMenai.  

 

Yn mynd i’r afael â’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer adeiladu cynaliadwy ac ôl-osod tŷ cyfan

Mae Saint-Gobain, ochr yn ochr gyda CIST, Business@LlandrilloMenai wedi datblygu hwb hyfforddi newydd i ganolbwyntio ar ddarparu cymwysterau o safon-uchel, cydnabyddedig mewn datrysiadau adeiladu a sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd ag ôl-osod tai o safon. Bydd yr hwb newydd yn llenwi’r bwlch hyfforddi sylweddol drwy ddarparu sgiliau mewn adeiladu ac ôl-osod tai i fyfyrwyr coleg a chrefftwyr yng ngogledd Cymru a thu hwnt. Bydd yr hwb hyfforddi newydd yn agor ei ddrysau ar 14 Mehefin i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer busnesau a myfyrwyr o bob rhan o’r rhanbarth.

Mae ôl-osod cartrefi presennol i’w gwneud yn gynhesach, llai costus i’w gwresogi, mwy cyfforddus a gwella lles trigolion yn flaenoriaeth a rennir gan Saint-Gobain a Thŷ Gwyrddfai.  Mae gan Adra dros 7000 o stoc tai i’w cynnal ac ôl-osod ac mae ganddo weithlu sydd angen ei uwchsgilio i ymgymryd â’r dasg anferthol yma. Gall CIST, Business@LlandrilloMenai ddarparu’r hyfforddiant a sgiliau, ar y cyd gyda’r cwmni adeiladu blaengar byd-eang, Saint-Gobain.  Prifysgol Bangor yw’r darn olaf o’r pos, maent ar hyn o bryd yn adeiladu cyfleuster ymchwil yn yr hwb i brofi cynhyrchion datgarboneiddio newydd ar gyfer y sector tai.

Gyda’n gilydd, drwy’r bartneriaeth gyda Business@LlandrilloMenai, caiff prentisiaethau cydnabyddedig eu cyflawni a chymwysterau eraill sy’n canolbwyntio ar fesurau penodol sy’n hanfodol i ôl-osod cartrefi gan gynnwys gosod Inswleiddiad Wal Allanol a Mewnol a mesurau inswleiddio atig,

Bydd y diwrnod agored yn cael ei gynnal yn Nhŷ Gwyrddfai, Ystad Ddiwydiannol Penygroes, Gwynedd.  Mae’r sesiwn bore rhwng 8am i 11am ar gyfer crefftwyr lleol a landlordiaid tai cymdeithasol tra bod y sesiwn prynhawn 1pm i 3pm ar gyfer ysgolion lleol a cholegau addysg bellach.

Bydd cyflwyniadau gan Adra, Saint-Gobain a CIST, Business@LlandrilloMenai yn ogystal â dangosiadau byw a seremoni agor swyddogol.

DYWEDODD MIKE CHALDECOTT, PRIF WEITHREDWR SAINT-GOBAIN UK:

“Mae Saint-Gobain yn falch iawn o gychwyn ar y bartneriaeth adeiladu ac un sy’n canolbwyntio ar sgiliau gyda Thŷ Gwyrddfai. Mae gan Saint-Gobain ymrwymiad tymor hir i ddarparu hyfforddiant adeiladu o safon-uchel. Gyda’n rhwydwaith o saith academi hyfforddi, ein 50+ o bartneriaethau coleg a phrentisiaethau neu ein gwaith gyda Barnardo’s ac Youthbuild sydd wedi hen sefydlu; mae darparu sgiliau a chymwysterau fel bod pobl yn gallu cyflawni datrysiadau adeiladu yn cyflwyno manteision mawr i bobl, busnesau a’r gymdeithas yn eang.  Rydym yn falch iawn o estyn y gwaith yma drwy’r bartneriaeth newydd yma yng ngogledd Cymru gyda phrosiect datgarboneiddio gwych – Tŷ Gwyrddfai.

YCHWANEGODD IWAN TREFOR JONES, PRIF WEITHREDWR ADRA:

“Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o’r bartneriaeth drawsnewidiol yma gyda Saint-Gobain a Thŷ Gwyrddfai.  Mae’r cydweithio yma nid yn unig yn bwysig i fynd i’r afael â’r angen brys am ddatrysiadau tai cynaliadwy ond hefyd i roi sgiliau hanfodol i’n gweithlu lleol.

Drwy ôl-osod ein stoc tai presennol ac uwchsgilio ein crefftwyr, rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd ein trigolion a chyfrannu at y nodau ehangach o gynaliadwyedd amgylcheddol.   Gyda’n partneriaid, rydym yn adeiladu dyfodol gwell, mwy cynaliadwy ar gyfer gogledd Cymru.”

I GLOI DYWEDODD GARETH HUGHES, RHEOLWR CANOLFAN CIST, BUSNES@LLANDRILLOMENAI:

“Mae lansio’r hwb hyfforddi datgarboneiddio yma yn Nhŷ Gwyrddfai yn nodi cam sylweddol ymlaen yn ein cenhadaeth i ddarparu addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn adeiladau cynaliadwy. Drwy gydweithio gyda Saint-Gobain, Adra, a Phrifysgol Bangor, byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu rhaglenni hyfforddi o safon-uchel sy’n hanfodol i ôl-osod cartrefi a lleihau defnydd o ynni.

Rydym yn falch iawn o weld effaith gadarnhaol y bydd yr hwb hyfforddi yma yn ei gael, nid yn unig yn ein cadwyn gyflenwi ond hefyd yn y gymuned ehangach hefyd.  Mae’n gosod gogledd Cymru fel arweinydd yn y sector adeiladu gwyrdd, yn barod i gwrdd â heriau datgarboneiddio a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.”