Ein staff yn casglu bwyd ar gyfer banc bwyd lleol
Mewn arddangosfa galonogol o ysbryd cymunedol, mae ein staff wedi dod at eu gilydd i gasglu bwyd ar gyfer banc bwyd lleol, gan ddarparu cymorth sydd wir ei angen i deuluoedd yn ein cymunedau.
Dros y mis diwethaf, mae ein staff wedi bod yn dod ag eitemau bwyd a nwyddau ymolchi i mewn ar gyfer eu rhoi i fanc bwyd lleol.
Yn ogystal cafwyd rhodd ariannol tuag at brynu bwyd gan un o’n contractwyr, sef Anglesey and Gwynedd Groundworks Ltd tuag at yr achos.
Cafodd yr eitemau a gesglir ei rhoi i Fanc Bwyd Coed Mawr ym Mangor, sydd yn ganol un o’n cymunedau. Dyma fanc bwyd sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am ei wasanaethau yn ddiweddar.
Gyda chostau byw cynyddol a’r heriau economaidd parhaus, mae llawer o deuluoedd yn ein cymunedau yn ei chael hi’n anodd. Nod cyfraniad ein staff yw lleddfu rhywfaint ar y baich hwn a rhoi rhyddhad i’r rhai mewn angen dros wyliau’r haf.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ac eisiau cymorth banc bwyd lleol, cysylltwch â ni. Rydym yma i’ch helpu.
Dywedodd Delyth Williams, ein Cyfarwyddwr Pobl a Chyfathrebu: “Rydym yn falch o’n tîm am eu haelioni a’u parodrwydd i helpu eraill yn ein cymunedau.”
“Yn Adra, rydyn ni’n credu mewn rhoi yn ôl i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae’r ymgyrch fwyd hon yn un enghraifft yn unig o sut mae ein staff yn ymgorffori ein gwerthoedd craidd.”
“Mae gweld yr ymdrech ar y cyd a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar ein cymuned yn wirioneddol ysbrydoledig,” medda Beth Nicol, aelod o staff a gymerodd ran yn yr ymgyrch fwyd. “Mae’n ein hatgoffa sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd at achos cyffredin.”
Dywedodd Ifan Owen, perchennog Anglesey and Gwynedd Groundworks Ltd: “Rydym yn falch o allu cefnogi ymgyrch staff Adra i gasglu bwyd ar gyfer banc bwyd lleol fel rhan o’n gwaith gwerth cymdeithasol.
“Mae’n bwysig gennym ein bod yn gallu rhoi nôl i’r cymunedau rydym wedi bod yn gweithio ynddyn. Ac mae’n enghraifft wych o sut y gall busnesau ac unigolion ddod at ei gilydd i gefnogi eu cymunedau.”
Mynegodd y banc bwyd ei ddiolchgarwch am y gefnogaeth, gan amlygu pwysigrwydd partneriaethau cymunedol wrth fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd. Bydd y rhoddion yn mynd yn bell i helpu’r banc bwyd i ddarparu bwyd a chyflenwadau hanfodol i deuluoedd lleol mewn angen.