Buddion Staff
-
Gwyliau blynyddol
Mae pawb yn cael rhwng 21 a 30 diwrnod. Ar ôl bob blwyddyn o wasanaeth parhaus yn ddibynnol ar eich telerau ac amodau gwaith, mi fydd eich gwyliau blynyddol yn cynyddu un diwrnod, am bum mlynedd.
-
Oriau Hyblyg
Oriau gwaith wythnos safonol i weithwyr yn y swyddfa yw 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Oriau gwaith wythnos safonol i weithwyr aml-grefftus yw 40 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener.Mae rhan fwyaf o waith swyddfa yn gallu cael ei weithio’n hybrid.
Gallwch weithio beth sy’n gweithio orau i chi rhwng saith y bore a saith y nos.
-
Cynllun Pensiwn
Aelodaeth o gynllun pensiwn –
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). www.gwyneddpensionfund.org.uk
- The Pensions Trust (TPT) www.tpt.org.uk.
-
Tâl salwch
Tâl salwch ychwannegol yn dilyn cwblhau cyfnod prawf.
-
Tâl aelodaeth broffesiynol
Un tanysgrifiad y flwyddyn.
-
Cynllun disgownt i staff
Aelodaeth am ddim i PERKS –
- talebau gostyngiadau siopau
- cynigion arbennig
- diwrnodau allan
- tocynnau gostyngedig
-
Disgownt cystadleuol gan Travis Perkins
disgownt gan fasnachwyr adeiladu Travis Perkins.
-
Cynllun beicio i'r gwaith
Arbed hyd at 42% ar gost beic ac offer newydd sbon. www.bike2workscheme.co.uk.
-
Mwy o dâl mamolaeth/ mabwysiadu
- 90% o gyflog am y 6 wythnos cyntaf
- 50% o gyflog am y 33 wythnos ganlynol.
-
Gofal iechyd
Mynediad am ddim i gynllun gofal iechyd Healthshield.
Gall aelodau hawlio arian yn ôl am driniaethau gofal iechyd hyd at derfyn y budd blynyddol y maent yn ei ddewis. www.healthshield.co.uk.
-
Iechyd Galwedigaethol
lles Cefnogi cyd-weithwyr sydd ag unrhyw faterion iechyd neu les.Cwnsela cyfrinachol am ddim.
-
Aelodaeth Canolfannau Hamdden
Disgownt corfforaethol ar gael mewn canolfanau hamdden Gwynedd a Môn.
-
Undeb Credyd Gogledd Cymru
Cyfle i arian fynd yn syth o’ch cyflog i gyfrif arbed arian
-
Gweithgareddau Gwasanaeth Cyhoeddus
Amser i ffwrdd gyda thâl ar gyfer gweithgareddau gwasanaeth cyhoeddus penodol megis Gwasanaethu ar Reithgor.
-
Parcio am ddim neu barcio rhatach
Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o swyddfeydd a gostyngiad ym meysydd parcio Cyngor Gwynedd.
-
Buddion eraill
Tê a choffi am ddim, sesiwn anwytho staff, diwrnod staff blynyddol