Academi Adra
Mae Academi Adra yn dod a’r nifer o gyfleoedd y gallwn eu darparu drwy Adra a’n partneriaid i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a dod o hyd i waith.
Os ydych yn bwriadu gwneud rhai newidiadau yn eich llwybr gyrfa gallwn eich cefnogi.
Gallai hyn fod trwy eich helpu chi chwilio am gyfleoedd:
- cyflogaeth
- hyfforddiant
- magu hyder
- gwirfoddoli
Pa gyfleoedd allwn ni eu cynnig?
Cyrsiau yn y meysydd canlynol:
- Adeiladwaith
- Sgiliau Gweinyddol
- Gwasanaeth Cwsmer
Dyma’r cyfleoedd sydd ar gael gyda ni ar hyn o bryd
Sut mae’n gweithio?
Cam 1 – Cofrestrwch ar gyfer un o’n cyrsiau, lle byddwch yn cael wythnos o hyfforddiant. Mae ein cyrsiau yn cael eu cynnal yn ein swyddfeydd ym Mangor a Penygroes.
Cam 2 – Byddwch wedyn yn cael cyfle i fynd am wythnos o brofiad gwaith di-dâl hefo ni yn Adra neu hefo un o’n partneriaid.
Cam 3 – Bydd pawb sy’n cwblhau’r pythefnos yn cael cynnig i ymgeisio am leoliad gwaith taladwy. Os ydych yn cael cyfweliad ac yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich lleoli o fewn Adra neu gydag un o’n partneriaid am eich lleoliad gwaith taladwy dros 16 wythnos.
Profiad Marcus ar gwrs Adeiladwaith gyda Academi Adra
Profiad Chloe ar gwrs Gwasanaethau Cwsmer gyda Academi Adra
Sut i gael cefnogaeth
Cysylltwch ag aelod o’n tîm i gychwyn ar eich taith trwy lenwi’r ffurflen hon neu ffoniwch 0300 123 8084.
Cymorth i gael gwaith
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.