Swyddi Gwag
Rydym yn darparu tai o safon yng ngogledd Cymru ac rydym yn cynnig cyfleoedd gyrfa i bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd tai mewn amgylchedd ddwyieithog.
Trwy weithio i ni gallwch wneud gwahaniaeth mawr i fywydau nifer o bobl yn eich cymuned.
Rydym yn cynnig opsiynau i weithio’n hyblyg ar gyfer nifer o swyddi, sydd yn golygu y gallwch gyfuno gweithio o gartref yn ogystal ag yn ein swyddfeydd.
Gwneud cais am swydd ar-lein Ffurflen Gais Ysgrifennedig Ffurflen Cyfle Cyfartal
Swyddi Adra
-
Rheolwr Fframwaith Rhanbarthol
Rydym yn chwilio am Rheolwr Fframwaith Rhanbarthol i ymuno a’r tîm Ffram24.
- £45,844 y flwyddyn (codiad cyflog i ddod) & hyd at 10% bonws perfformiad
- 37 awr yr wythnos
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol
- Parhaol
- De Cymru
Ymgeisio: Er mwyn ymgeisio am y rôl yma, plîs anfonwch gopi o’ch CV ymlaen at recriwtio@adra.co.uk
Dyddiad Cau: 27/02/2025 am 12yp
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
-
Plymwr Aml-Grefftus - Cymhwyso mewn Nwy
Rydym yn chwilio am Plymwr Aml-Grefftus – Cymhwyso mewn Nwy i ymuno a’r tîm Eiddo.
- £33,194 y flwyddyn
- 40 awr yr wythnos
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol
- Parhaol
- Gogledd Cymru
Ymgeisio: Er mwyn ymgeisio am y rôl yma, plîs anfonwch gopi o’ch CV ymlaen at recriwtio@adra.co.uk
Dyddiad Cau: 06/03/2025 am 12yp
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
-
Swyddog Gwasanaethau Cwsmer - x2
Rydym yn chwilio am Swyddog Gwasanaethau Cwsmer i ymuno a’r tîm Gwasanaeth Cwsmer.
- £23,542 – £26,064 y flwyddyn
- 37 awr yr wythnos
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol
- Parhaol
- Tŷ Coch – Bangor
Dyddiad Cau: 13/03/2025 am 12yp
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
-
Swyddog Gwasanaethau Cwsmer - Dros Dro
Rydym yn chwilio am Swyddog Gwasanaethau Cwsmer i ymuno a’r tîm Gwasanaeth Cwsmer.
- £23,542 – £26,064 y flwyddyn
- 37 awr yr wythnos
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol
- Dros Dro – Hyd at 12 mis
- Tŷ Coch – Bangor
Dyddiad Cau: 13/03/2025 am 12yp
Rydym yn annog ceisiadau gan ferched, tenantiaid a grwpiau lleiafrifol sydd at hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli yn ein gweithlu.
Rolau Bwrdd Adra
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, dydd Gwener 14 Chwefror 2025.
-
2 Gyfarwyddwr Anweithredol (Aelodau Cyfetholedig)
Rolau Bwrdd Adra
Bangor, Gwynedd
Lefel tâl: £5,000 y flwyddyn
Ymrwymiad amser – tua dau ddiwrnod y misNi yw Adra, darparwr tai blaenllaw yng ngogledd Cymru gyda dros 7,000 o gartrefi ac yn darparu gwasanaethau i dros 16,000 o gwsmeriaid lleol. Ein nod yw darparu cartrefi a gwasanaethau fforddiadwy a dibynadwy o ansawdd uchel, a pharhau i wella lles ein cymunedau.
Rydym am recriwtio dau Gyfarwyddwr Anweithredol (Aelodau Cyfetholedig) i Fwrdd Adra gyda’r sgiliau / profiad canlynol:
- Cyfreithiol a llywodraethu corfforaethol; ac ar wahân
- Datgarboneiddio a / neu reoli asedau
Ymhellach, byddai hanes cryf o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn fuddiol.
Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd gwahanol. Ar gyfer y recriwtio hwn, byddem yn annog yn arbennig geisiadau gan fenywod sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar y Bwrdd ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gyflogwr hyderus o ran anabledd ac yn aelod o Tai Pawb.
Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar werthfawrogiad o’r ardal rydym yn ei gwasanaethu, ac empathi â’n cymunedau, ein diwylliant, a’r iaith Gymraeg.
Gall ein trefniadau ac amseroedd cyfarfodydd fod yn hyblyg a chynnwys cymysgedd o fformatau mewn person, rhithwir a hybrid. Gan fod hon yn rôl â thâl, ni ellir hawlio costau teithio i’r swyddfa ar gyfer y cyfarfodydd safonol, ond bydd Adra yn ad-dalu costau rhesymol eraill yn unol â’r Polisi perthnasol. Byddem hefyd yn ystyried unrhyw gymorth ychwanegol i gefnogi Aelodau, megis gofal plant neu gostau gofal.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol i wybod mwy am y rôl, yna cysylltwch ag Aled Davies, Pennaeth Llywodraethu, ar 01248 677144 neu 0300 123 8084.
Helpwch i lunio dyfodol Adra, mae’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn ein Pecyn Recriwtio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, dydd Gwener 14 Chwefror 2025.
Swyddi Academi Adra
Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Swyddi
Os hoffech dderbyn diweddariadau pryd bynnag y bydd erthygl newydd yn cael ei phostio neu swydd newydd yn cael ei hysbysebu – Tanysgrifiwch isod.