Sylw ar iaith mewn cynhadledd fawreddog
Mi fyddwn yn trefnu cynhadledd fawreddog ddiwedd y mis er mwyn rhoi ffocws ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Bydd cynhadledd Iaith ar Waith yn cymryd lle yn Nhŷ Gwyrddfai ar bnawn Mawrth, Ebrill 30.
Bydd ein Prif Weithredwr Iwan Trefor Jones ymysg y siaradwyr. Y lleill fydd yn cymryd rhan fydd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg; Bethan Griffiths o Lywodraeth Cymru; Dr Simon Brooks o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg; Sian Morris Jones o’r Urdd ac Iwan Hywel o Fenter Iaith Gwynedd.
Bwriad y gynhadledd yw:
- dathlu llwyddiannau’r Gymraeg o fewn Adra
- cynnal trafodaeth am sut gallwn gyd-weithio efo partneriaid allweddol i helpu i wneud mwy o fewn ein cymunedau a hybu siwrnai iaith trigolion cymdeithasau tai
- cymryd golwg cynnar ar gyflwyno Safonau Iaith o fewn y sector dai a sut gall Cymdeithasau Tai’r Gogledd fod yn gwmnïau angor i helpu gweddill y sector i ddilyn ôl-troed
- cynnig trosolwg o sefyllfa’r Gymraeg yn genedlaethol a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i hybu defnydd o’r iaith
- trafod rôl sefydliadau i gyfrannu tuag at y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Dywedodd Aled Davies, ein Pennaeth Llywodraethu: “Rydym yn hynod falch o’n siwrnai Iaith dros y blynyddoedd ac rydym wedi gwneud ymrwymiad clir o barhau i wella’r modd rydym yn cynnig gwasanaethau i’n cwsmeriaid a’n cymunedau.
“Ond mae’r gynhadledd hon hefyd yn edrych ar ddatblygiad y Gymraeg yn ehangach, o fewn Gogledd Cymru a sut y mae datblygiadau ar lefel cenedlaethol yn gallu cael dylanwad ar ein gwaith yma yn y Gogledd.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu nifer o sefydliadau ac unigolion o wahanol sectorau a’r gobaith yw y byddwn yn cael sgwrs adeiladol a chynhyrchiol ar sut y gallwn gydweithio er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn ein cymunedau”