Picture of one of our call centre officers

System atgoffa apwyntiadau newydd

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad system awtomatig newydd i atgoffa ein tenantiaid o’u hapwyntiadau.

Bydd y system yn galw tenantiaid 14 diwrnod cyn eu hapwyntiad, ac yna 3 diwrnod cyn yr apwyntiad.

Mae’r negeseuon wedi’u recordio yn Gymraeg a Saesneg, a bydd y llais yn gyfarwydd i’r rhai sydd wedi ein galw o’r blaen ar ein rhif 0300 123 8084.

Bydd y galwadau atgoffa yn dod o rif ffôn 01248 yn hytrach na’n rhif 0300 arferol.

Os na chaiff yr alwad ei hateb, bydd y system yn gadael neges ac yn anfon neges destun.

Dywedodd ein Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cwsmer: “Rydym yn gyffrous i gael y system newydd hon ar waith i allu atgoffa ein tenantiaid o’u hapwyntiadau.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd cael system fel hyn yn ei le, yn lleihau nifer yr apwyntiadau sydd yn cael eu colli.”