Taith Iaith Adra i ysgolion ar draws gogledd Cymru
Mae Adra wedi bod yn cydweithio ag Ameer Davies-Rana, a’i brosiect 1 Miliwn, sy’n deillio o darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Adra ac Ameer wedi bod ar daith o amgylch ysgolion uwchradd ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys
- Ysgol y Creuddyn
- Ysgol Glan y Môr
- Ysgol Dyffryn Conwy
- Ysgol Tryfan
- Ysgol Brynrefail
- Ysgol Dyffryn Nantlle.
Y bwriad oedd hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Ei arddangos fel iaith ddiddorol sy’n cael ei ddefnyddio ar lafar, bob dydd, ym myd gwaith, ac nid fel iaith addysg yn unig.
Hyrwyddo’r iaith Gymraeg
Mae gan Adra Siarter Iaith ac mae hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn un o egwyddorion o fewn y Siarter.
Roedd hwn yn gyfle gwych i gynrychiolwyr Adra godi ymwybyddiaeth am y cwmni fel lle gweithio i genedlaethau’r dyfodol a’r cyfleoedd gwaith, recriwtio, a hybu a datblygu sgiliau drwy brentisiaethau ac ati drwy ein cynllun Academi Adra. Roeddem hefyd yn hyrwyddo ein bod yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gwaith, iaith weinyddol.
Dywedodd Ameer Davies-Rana:
“Rydw i yn falch iawn o weithio hefo Adra yng ngogledd Cymru er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’n bwysig newid a datblygu ein hagwedd ni tuag at yr iaith. Y ffordd orau o wneud hyn yw newid y ffasiwn – ’neud e’n cŵl’.
Dyfodol yr iaith
Y ffordd rydym yn gweld yr iaith yw beth sy’n gwneud i ni benderfynu os ydym am fod yn rhan ohono fe neu beidio.
Mae’n amser agor drws, cau drws a symud ymlaen… yn ffasiynol ac yn cŵl gyda; 1Miliwn.”
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:
“Rydw i mor falch ein bod ni wedi trefnu a chydweithio ar daith iaith ar draws ysgolion Uwchradd sy’n rhan o’n cymunedau.
“Mae’n bwysig bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio a’i hyrwyddo, a’i fod yn syml a chlir er mwyn i fwy o bobl ei ddefnyddio.
“Rydan ni hefyd yn falch iawn o bwysleisio ein bod ni’n defnyddio’r iaith Gymraeg yn ein gwaith yn ddyddiol. Dyna ydi’r iaith sydd i’w glywed yn ein swyddfeydd ac o fewn ein cymunedau, ac rydan ni’n falch iawn o gael bod yn rhan o hyn.”
Diolch yn fawr i’r chwe ysgol am y croeso, mae cyfleoedd unigryw ar gael trwy ein Academi Adra yn gyson cadwch lygaid ar ein gwefan am y cyfleoedd diweddaraf.
Gweld cyfleoedd diweddaraf ar wefan Academi Adra