Photo of Mr Dean celebrating his 100th Birthday.

Tenant yn dathlu carreg filltir pen-blwydd arbennig

Mae un o’n tenantiaid wedi dathlu carreg filltir arbennig – ei ben-blwydd yn 100 oed.

Daeth teulu a ffrindiau ynghyd yr wythnos hon i nodi penblwydd Jim Dean yn Yr Hen Balas, Llanelwy, Sir Ddinbych gyda chinio dathlu a chacen penblwydd.

Yn gyn-beiriannydd moduro, cafodd Jim ei eni ym Manceinion, ond bu’n byw yn Stockport cyn symud i Sir Ddinbych i fyw gyda’i wraig Elsie. Symudodd y ddau i’r Hen Balas yn 2003.

Dywedodd Jim: “Cyrraedd 100 – mae’n gyfrinach na allaf ei hegluro mewn gwirionedd. Mae’n debyg bod cael iechyd da ar hyd fy oes wedi helpu i fynd mor bell â hyn beth bynnag. Mae yna un neu ddau o blipiau wedi bod ar hyd y ffordd, ond ‘dw i wedi llwyddo i gyrraedd yr oedran yma. Ac roedd gen i bartner da iawn i rannu fy mywyd a hi.

“Un o fy hobïau mwyaf dros y blynyddoedd oedd chwarae ar lawntiau bowlio ac wedi arfer chwarae mewn sawl cynghrair. Roedd fy ngwraig a minnau’n chwarae bowls. Chwaraeais yn y pnawniau ac ymuno â fy ngwraig ar y lawnt bob nos. Roedd hynny yn cymryd tipyn o fy amser..

“Pan oedden ni’n byw ym Manceinion, roedden ni’n arfer dod lawr i’r Rhyl ar ymweliadau am benwythnosau. Roedd cefnder fy ngwraig yn byw yno ger y clwb rygbi. Clywsom fod byngalo yn dod yn wag. Fe ddywedon ni na fydden ni byth yn symud eto ar ôl i ni setlo ond ar y ffordd adref fe wnaethon ni alw i mewn i’r gwerthwyr tai. Fe benderfynon ni werthu’r tŷ a symud i’r byngalo yn y Rhyl ac roedden ni wrth ein bodd”.

Llun o cacen Mr Dean Llun o'r bwffe a chacen pen-blwydd

Dywedodd Shelly Ross,  ein Swyddog Tai Cymunedol yn Yr Hen Balas: “Mae Jim yn gymeriad mor wych ac yn edrych gymaint yn iau na’i 100 mlynedd.

“Doedd e wir ddim eisiau unrhyw ffwdan ar ei ben-blwydd arbennig ond allwn ni ddim gadael i’r eiliad honno fynd heibio heb ddathliad”.

Dywedodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau: “Roeddem yn falch iawn o ymuno yn nathliadau pen-blwydd Jim yn 100 oed. Mae hynny’n garreg filltir arbennig ac yn gyfle gwych i ddathlu gyda’i deulu a’i ffrindiau.

“Mae’n esiampl ddisglair i ni gyd ac mae’r ffaith ei fod yn parhau i ddilyn ei arferion dyddiol fel cerdded i lawr y stryd fawr i gael ei bapur newydd yn rhyfeddol”.