Tenantiaid wrth galon gwaith Adra
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru wedi amlinellu sut y mae’n bwriadu cynnwys tenantiaid yn ei phenderfyniadau a sicrhau bod ganddynt lais cryf yn y modd y caiff gwasanaethau eu datblygu.
Mae Bwrdd Adra wedi cymeradwyo’n ffurfiol ddogfen o’r enw ‘Eich Llais’ sy’n nodi sut mae’r sefydliad yn bwriadu gwella lefelau cyfranogiad tenantiaid ar draws Gogledd Cymru.
Mae ‘Eich Llais’ yn annog mwy o amrywiaeth o gyfraniadau ac yn croesawu barn y rhai sydd â phrofiad o fyw neu ddiddordebau penodol. Bydd mwy o ffocws ar lwyfannau digidol i ymgysylltu â thenantiaid, ond hefyd ymweliadau wyneb yn wyneb, cyfarfodydd llai ffurfiol a mwy o gyfleoedd i gwrdd â Bwrdd Adra.
Dywedodd Hywel Eifion Jones, Cadeirydd Bwrdd Adra: “Fel Bwrdd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar ein tenantiaid a’r rhan hanfodol y mae eu hadborth wedi’i chwarae yn natblygiad a llwyddiant Adra ers 2010.
“Ym mis Ebrill 2022, fe wnaethom lansio ein Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol. Mae’r Cynllun yn adlewyrchu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein hegwyddorion sylfaenol a’r nodau allweddol yr ydym am eu cyflawni erbyn 2025. Yn y Cynllun, rydym yn amlygu ein cefnogaeth barhaus i gyfranogiad tenantiaid drwy ymrwymo i “deilwra ein gwasanaethau i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid , pwy fydd wrth galon yr hyn a wnawn” a hefyd “Gwella sut rydym yn gwrando ac yn gweithredu” ar ein tenantiaid.
“Mae Bwrdd Adra yn gwbl ymroddedig i gyfranogiad tenantiaid. Rwy’n credu y bydd ‘Eich Llais’ yn sicrhau y bydd barn y tenant yn parhau i gael ei chlywed fel y gallwn gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol yn llwyddiannus. “
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Partneriaethau Adra: “Rydym am wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid wrth galon ein gwaith ac rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn y strategaeth i wrando ar ein tenantiaid a gweithredu ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym.
“Mae Adra yn perfformio’n dda o ran Cyfranogiad Tenantiaid gyda rhai o’r lefelau perfformiad gorau yng Nghymru. Mae’r strategaeth ddiwygiedig yn darparu dull hyblyg o deilwra ymgynghoriadau mewn ffordd sy’n gweithio orau i’n tenantiaid. Mae Eich Llais hefyd yn cynnwys gweithgareddau megis teithiau stad, digwyddiadau cymunedol, panel cwsmeriaid, holiaduron ar-lein a sgyrsiau ardal”.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i wella’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu ac yn gwrando ar ein tenantiaid a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw lais cryf ar sut mae gwasanaethau’n cael eu datblygu yn y dyfodol”.
Gall tenantiaid sy’n dymuno cael gwybod am gyfleoedd cyfranogiad yn y dyfodol roi gwybod i Adra a bydd y manylion yn cael eu rhannu wrth iddynt ddod ar gael. Hefyd, os hoffech chi ymuno â Phanel Cwsmeriaid Adra ar unwaith, gallwch chi gael eich ychwanegu at y rhestr aelodaeth. Mae’r ymgynghoriad nesaf wedi’i drefnu ar gyfer Mai 2023.
E-bostiwch Adra yn: cymunedol@adra.co.uk i gofrestru eich diddordeb.