Tenantiaid yn symud i mewn yn natblygiad tai diweddaraf Adra
Mae cam diweddaraf datblygiad tai sylweddol ym Mhrestatyn bellach yn cael ei gwblhau, gyda’r tenantiaid cyntaf yn symud i’w cartrefi newydd sbon.
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf Gogledd Cymru, yn arwain datblygiad 102 o gartrefi ar safle Fferm Plas Newydd ym Mhrestatyn. Castle Green Homes yw’r contractwyr sy’n gweithio ar y cynllun.
Mae 16 eiddo yn cael eu cwblhau nawr, gyda’r gweddill i’w cwblhau fesul cam hyd at fis Mawrth 2024.
Bydd 46 o’r eiddo hynny at ddibenion rhent cymdeithasol, gyda’r 56 arall yn unedau rhent canolradd. Mae’r cynllun Rhent Canolradd yn cynnig cyfle i ymgeiswyr rentu cartref newydd sbon neu gartref wedi’i adnewyddu am 80% o gyfradd y farchnad. Mae’r cynllun hwn yn berffaith ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu fforddio rhentu yn y sector preifat neu brynwyr tro cyntaf nad ydynt eto’n gallu fforddio prynu cartref, ond sydd eisiau’r cyfle i gynilo ar gyfer blaendal i brynu cartref.
Mae’r datblygiad cyfan yn cynnwys cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely, yn ogystal â byngalos 2 a 4 ystafell wely.
Y tenantiaid cyntaf sy’n symud i mewn yw Hannah Davies a Lorren Sierra.
Dywedodd Hannah: “Rydyn ni’n hollol ecstatig, wrth ein bodd yn ei gylch. Mae’n hollol anhygoel – mae’n golygu’r byd i ni fel teulu. Rydw i wedi bod mor gyffrous fy mod wedi bod yn gyrru yma bob nos dim ond i gael golwg ar y stad.
“Dim ond rownd y gornel dwi’n byw, ond dyma ein cartref cyntaf gyda’n gilydd, mae’n dod a ni at ein gilydd fel teulu.
“Mae hwn yn gartref newydd – dwi erioed wedi cael unrhyw beth fel hyn yn fy mywyd ac mae Adra wedi bod yn hollol anhygoel. Rydw i wedi bod mewn cysylltiad llawer â’r tîm, yn gofyn llawer o gwestiynau ac maen nhw wedi bod yn amyneddgar iawn.
“Rydyn ni’n dod o Brestatyn ac roedd fy mab canol yn bryderus ynglŷn â symud i ffwrdd o’r ardal, gan ei fod wedi setlo yn yr ysgol leol. Felly yn llythrennol mae cael y tŷ hwn rownd y gornel o’r ysgol y mae’n ei fynychu yn wych, mae’n gwneud bywyd cymaint yn haws. Mae ei ffrindiau i gyd yn byw o gwmpas yma, rydyn ni’n adnabod pawb o gwmpas y lle felly mae’n hollol berffaith.
“Dyma ddechrau dyfodol gwych i ni gyd”.
Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu: “Rydym yn falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud gyda datblygiad Fferm Plas Newydd ac mae’n wych gweld y tenantiaid cyntaf yn symud i mewn.
“Maen nhw’n amlwg yn hapus iawn gyda’u heiddo a does dim byd gwell na derbyn yr allweddi am y tro cyntaf. Rydym yn falch iawn o’u croesawu i’w cartref newydd.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn y rhan yma o Sir Ddinbych, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd, o ansawdd uchel a fforddiadwy y gall pobl fod yn falch ohonynt ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith, gyda’r nod o’i gwblhau ymhen 12 mis.”
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn yr opsiwn rhentu canolradd, mae angen iddynt gofrestru gyda Tai Teg: www.taiteg.org.uk