Tendra
Rydym wedi cyhoeddi ein menter ddiweddaraf o’r enw Tendra, gyda’r nod o feithrin twf a datblygiad o fewn y sector adeiladu lleol.
Mae Tendra wedi’i sefydlu i chwalu’r rhwystrau a wynebir gan gwmnïau adeiladu bychain, yn enwedig wrth ddelio â rhwystrau gweinyddol wrth wneud cais am gontractau.
Gyda’r is-bennawd “Adeiladu’r dyfodol, un tendr ar y tro,” nod y prosiect yw helpu busnesau bach i lywio gwaith papur a magu hyder i gynnig am waith, gan gynnwys contractau mwy trwy lwyfannau fel GwerthwchiGymru
Mae Tendra wedi cael ei gefnogi gan Gronfa Her ARFOR, menter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i archwilio datrysiadau i gryfhau’r berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r economi ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru
Trwy gydol 2024, bydd Tendra yn cynnig cyfres o weithdai am ddim wedi’u teilwra i anghenion busnesau adeiladu bychain. Bydd y sesiynau’n ymdrin â phynciau hanfodol megis deall gwerth cymdeithasol, prisio swyddi’n effeithiol, blaenoriaethu iechyd a diogelwch, cael achrediadau angenrheidiol, a datblygu matrics hyfforddi cynhwysfawr.
Mae’r gweithdai hyn wedi’u cynllunio i rannu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn tirwedd diwydiant cystadleuol i helpu busnesau adeiladu bach yn y sector.
Bydd cefnogaeth ymarferol, adnoddau, a chyfleoedd rhwydweithio a bydd Tendra hefyd yn meithrin cynaliadwyedd a llwyddiant hirdymor y busnesau hyn.
Hyfforddiant
Cadwch lygad am weithdai a fydd yn cael eu trefnu rhwng Medi a Rhagfyr 2024.
- Cynhelir gweithdai ar:
- Y broses gaffael
- Gwerth Cymdeithasol
- Achrediadau
- Sut i brisio swydd
- Iechyd a Diogelwch
- Hyfforddiant.
Bydd pob gweithdy yn para dwy i dair awr.
Cadw mewn cysylltiad
Ar gyfer perchnogion busnesau bach yn y diwydiant adeiladu sy’n dymuno cael gwybod am y gweithdai a’r digwyddiadau sydd i ddod a gynhelir gan Tendra, mae cofrestru diddordeb bellach ar agor.
Anfonwch e-bost at info@tygwyrddfai.cymru i sicrhau eich lle.