Enwi stad o dai ar ôl ffigwr pwysig y byd llenyddol
Rydym yn falch o gyhoeddi’r enw ar gyfer stad newydd o dai sy’n cael eu hadeiladu yn Nhywyn – Llys Elen Egryn.
Cafodd yr enw ei roi ymlaen gan Gyngor Tref Tywyn oedd yn awyddus i enw’r stad newydd gynrychioli’r gymuned a gwreiddiau lleol.
Bardd oedd Elin Evans (ei henw barddol oedd Elen Egryn), o Lanegryn. Hi oedd y ddynes gyntaf i gyhoeddi cyfrol brintiedig yn y Gymraeg ym 1850.
Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Cartrefi Cymunedol Gwynedd: “Mae’n bwysig iawn i ni bod enwau ein stadau newydd yn parchu diwylliant, treftadaeth a hanes y gymuned honno. Dyna pam y byddwn wastad yn gofyn am awgrymiadau gan gynghorau tref a chymuned. Dwi’n hynod o falch ar yr achlysur hwn bod enw merch dylanwadol gyda chysylltiad cryf i’r ardal wedi cael ei ddewis.”
Ychwanegodd yr awdures Manon Steffan Ros sy’n byw yn yr ardal ac yn gyfarwydd â’i gwaith: “Dw i mor falch o weld Elen Egryn yn cael ei chydnabod fel hyn. Mae hi’n parhau’n ffigwr pwysig yn y byd llenyddol hyd heddiw ac yn ysbrydoliaeth i lawer.
“Mae ei barddoniaeth yn eitha’ nodweddiadol o’r cyfnod gyda llawer o sôn am grefydd, ond un o’r pethau sy’n sefyll allan ydy ei bod hi’n sgwennu’n eithaf agored am ei hiselder ysbryd. Mae o’n teimlo’n fodern ac yn amserol yn hynny o beth. Felly nid yn unig oedd hi’n flaengar o ran cyhoeddi’n Gymraeg a hithau’n ferch, ond roedd ei themâu hi’n ddewr a theimladwy hefyd.”
Mae 4 tŷ dwy-ystafell wely a 8 fflat sy’n gymysgedd o fflatiau un a dwy ystafell wely ar gyfer bobl dros 55 mlwydd oed yn cael eu hadeiladu ar y safle. Byddant yn barod i’w gosod haf 2019.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhentu un o’r tai neu fflatiau yn Llys Elen Egryn, cofrestrwch eich manylion gyda Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd ar 01286 685100.
Mae’r cynllun £1.1 miliwn yn cael ei gyllido gennym ni a gan grant Llywodraeth Cymru.