Picture of the development team outside Plas Penrhos, with big numbers 1000

Tîm Datblygu yn dathlu cwblhau 1,000 o gartrefi

Fel un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy ac o safon yng ngogledd Cymru, rydym yn dathlu cwblhau ein 1,000fed cartref newydd.

Mae Plas Penrhos, sydd wedi ei leoli ym Mhenrhosgarnedd, yn ddatblygiad sy’n cynnwys 39 o fflatiau i’w rhentu’n gymdeithasol, ac yn gymysgedd o gartrefi un a dwy ystafell wely ar gyfer trigolion dros 55 oed ac yn cynnwys cyfleusterau cymunedol.

Y contractwyr ar gyfer y datblygiad oedd Wynne Construction.

Huw Evans, ein Pennaeth Datblygu: “Rydym yn falch iawn o gyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon o gwblhau 1,000 o gartrefi newydd, ers i ni ddechrau datblygu cartrefi newydd yn ôl yn 2016.

“Mae’r cyflawniad hwn yn destament i waith caled y Tîm Datblygu yn Adra a’n hymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r heriau tai yn ein cymunedau a darparu cartrefi fforddiadwy i bobl leol. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, ymgynghorwyr, a chontractwyr.

“Rydym wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi newydd sbon o ansawdd uchel y gall pobl fod yn falch ohonynt, sy’n effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy o ran rhent a chostau gwresogi.”

Llun o tu allan i Plas Penrhos yn dangos enw yr adeilad ar lechan. Llun o'r lofla cymunedol Llun o un o'r coridorau gyda waliau gwyrdd golau. Llun o ystafell gawod Llun o ystafell fyw a gegin agored. Llun o'r adeilad gyda mannau parcio.

Ychwanegodd Owen Bracegirdle, ein Uwch Reolwr Prosiect: “Rydym yn falch o weld Plas Penrhos yn cael ei gwblhau yn llwyddiannus, a oedd hefyd yn nodi ein 1,000fed cartref newydd y mae’r tîm wedi’i gyflawni.

“Trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid cymunedol, rydym wedi darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o unigolion.

“Rydym yn hyderus y bydd yr cyfleusterau sydd wedi’u cynllunio’n ofalus a dyluniad meddylgar y cynllun yn gwella ansawdd bywyd ein trigolion. Edrychaf ymlaen at weld cymuned yn blodeuo yma wrth i’r trigolion ymgartrefu dros y misoedd nesaf.

“Hoffem ddiolch i Wynne Construction am eu gwaith yn cwblhau’r prosiect i safon uchel, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw eto yn y dyfodol.”

Derbyniodd y prosiect gyllid rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru drwy Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd, gan helpu i sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn diwallu anghenion tai presennol a dyfodol trigolion lleol.