Tîm Trwsio Adra yn adeiladu tai cymdeithasol
Rydym yn adeiladu dau gartref fforddiadwy ym Mro Pedr Fardd, Garndolbenmaen i gyfarch yr angen tai lleol gyda ddefnydd grant tai cymdeithasol gan Llywodraeth Cymru
Am y tro cyntaf, rydym wedi penodi ein tîm Trwsio mewnol fel contractwr i adeiladu’r tai. Mae hyn yn amser cyffrous i’r tîm Trwsio ac i Adra.
Mae tîm Trwsio Adra wrthi yn adeiladu dau dŷ ym Mro Pedr Fardd ac wedi bod yn gweithio hefo MBC Timber Frame er mwyn gosod y sylfaen a gosod y ffrâm goed ar gyfer y tai. Tîm Trwsio Adra yw’r prif gontractwr ac wedi penodi Tom James Construction a MBC Timber Frame i gwblhau agweddau o’r gwaith.
Bydd y tai yma yn defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar sy’n wyrdd iawn o ran ynni ac yn cyd-fynd ag ein ymrwymiad i’r amgylchedd a datgarboneiddio.
Rydym yn adeiladu’r tai ar ein tir er mwyn cyfarch yr angen lleol am dai cymdeithasol.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Dirprwy Brif Weithredwr Adra:
“Rydym yn hynod falch o allu dechrau adeiladu ein tai ein hunain a gweld tîm talentog Trwsio wrth eu gwaith.
“Mae datblygu sgiliau ein staff, ein timau a rhoi profiadau newydd yn rhywbeth yr ydym yn falch iawn o allu gwneud, yn enwedig wrth i ni allu cyfuno hyn â darparu tai sydd eu hangen i drigolion lleol.
“Mae adeiladu tai gyda phaneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer yn sicrhau defnyddio ynni gwyrdd hefyd yn bwysig i ni.
“Mae hyn yn clymu mewn i’n strategaeth ddatgarboneiddio a’r Hwb Datgarboneiddio sydd ar y gweill gennym ym Mhenygroes. Dyma gyfle i ddatblygu sgiliau, gweithio mewn partneriaeth a sicrhau dyfodol gwyrdd i ni yng ngogledd Cymru.
“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i adeiladu’r tai yma ac rydym wir yn edrych ymlaen at eu gweld wedi eu hadeiladu a gweld teuluoedd lleol yn cael budd o fyw ynddynt.”