
TPAS Cymru yn lansio ei 5ed Arolwg Pwls Tenantiaid Blynyddol
Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar gynhesrwydd fforddiadwy, effeithlonrwydd ynni, a’r daith tuag at dai Sero Net.
Mae’n gyfle i denantiaid rannu eu profiadau a lleisio’u barn ar faterion sydd bwysicaf iddyn nhw – biliau ynni, cynhesrwydd fforddiadwy.
Pam fod yr arolwg TPAS hwn yn bwysig i chi fel tenant Adra?
Y llynedd, rhoddodd tenantiaid Adra fewnwelediadau amhrisiadwy a luniodd drafodaethau tai ledled Cymru.
Eleni, mae’r arolwg yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) ac a yw gwresogi yn fforddiadwy – cwestiynau hanfodol ar gyfer darparu cartrefi sy’n wirioneddol ynni-effeithlon. Mae’r mewnwelediadau hyn yn hanfodol i’n helpu ni, a’r sector, i symud ymlaen tuag at nod Cymru o gyflawni tai Net Sero.
Mae’r arolwg hwn yn rhoi cyfle arall i wneud yn siŵr bod lleisiau tenantiaid yn ganolog i greu cartrefi sy’n gynhesach, yn wyrddach ac yn fwy fforddiadwy.
Manylion yr arolwg:
- Dyddiad cau: 14 Chwefror 2025
- Linc i’r arolwg: https://tpascymru.questionpro.eu/affordablewarmth
- Raffl: Fel diolch, gall tenantiaid gymryd rhan yn raffl TPAS am gyfle i ennill gwobrau bwyd Cymreig anhygoel!