Tŷ Gwyrddfai – Hwb Datgarboneiddio
Mae hwb datgarboneiddio, y cyntaf o’i fath yn cael ei sefydlu ym Mhenygroes.
Mae’r datblygiad, a elwir yn Dŷ Gwyrddfai, yn brosiect ar y cyd rhwng Adra, Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor a bydd yn trawsnewid hen safle Northwood yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod gogledd orllewin Cymru yn flaenllaw yn yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod cartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.
-
Hanes y safle
O’r safle hwn roedd Northwood Hygiene Products yn gweithredu cwmni gweithgynhyrchu deunyddiau, yn cyflogi hyd at 100 o weithwyr. Caeodd y safle ym mis Hydref 2020.
Ar ôl trafodaethau gyda Welcome Furniture, cafodd y safle ei lesu gan Adra, gyda’r bwriad o greu canolfan hyfforddi ar gyfer arddangos a gosod cynnyrch a fyddai’n rhan o’r broses o ddatgarboneiddio cartrefi y mae Adra yn berchen arnyn nhw.
Mae’r safle hefyd yn cynnwys depo Travis Perkins sy’n darparu Adra a’i gontractwyr gyda chyfarpar ar gyfer atgyweirio ac adnewyddu stoc tai presennol ac adeiladu tai newydd.
-
Yr enw
Mae’r enw Gwyrddfai yn chwarae ar y geiriau Gwyrdd a Gwyrfai.
Mae gwyrdd yn symbol arwyddocaol ar gyfer yr amgylchedd ac yn cyfleu’r hyn y mae Adra a phartneriaid yn gobeithio ei gyflawni drwy ddatgarboneiddio. Mae tŷ wrth wraidd popeth y mae Adra yn ei wneud fel cwmni a darparwr tai.
Cyflwynwyd rhestr fer o enwau i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, gan staff Adra.
-
Amcanion hirdymor
Yn y tymor hir, bydd y datblygiad yn arwain at weithlu mwy cymwys a medrus, a fydd yn cefnogi’r sector adeiladu lleol ac yn sicrhau bod unrhyw werth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio a buddsoddiad cyfalaf a fydd ynghlwm â hynny yn cael ei gadw’n lleol.
Bydd hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid.
Mae cyffro gwirioneddol ymhlith y partneriaid ac yn y rhanbarth am y prosiect hwn a’r gwerth cymdeithasol a’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei gyflawni i gymunedau lleol a’r economi leol.
-
Digwyddiadau
Dyddiad Enw’r digwyddiad Bwcio yma Hyfforddwyr LLe? 23/10/2024 Dyfarniad mewn effeithlonrwydd Ynni mewn hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni 30/10/2024 PASMA- Gweithio ar uchder Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni/ Tŷ Gwyrddfai 30/10/2024 PASMA- Hyfforddi safonol tŵr mynediad symudol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST- Llangefni/ Tŷ Gwyrddfai 04/11/2024 Hyfforddiant Tendra- Caffael Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 05/11/2024 Hyfforddiant Tendra- Gwerthoedd Cymdeithasol Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 06/11/2024 Hyfforddiant Tendra- Achrediaidau Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 06/11/2024 ev3/01 Deall gofynion gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/eal-ev3-01-understand-the-requirements-for-the-installation-of-electric-vehicle-charging-points GLLM Tŷ Gwyrddfai 07/11/2024 Hyfforddiant Tendra- Iechyd a Diogelwch Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 07/11/2024 Eal 18fed Argraffiad rheoliadai weirio, ail ddigwyddiad https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/electrical-installation-requirements-for-bs76712008-18th-edition-level-3-diploma-remote-online-tutor-led-or-classroom-based-dependant-on-campus GLLM Tŷ Gwyrddfai 07/11/2024 Tystysgrif mewn gosod a phrofi systemau ffotofoltaidd Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST- Llangefni 08/11/2024 Hyfforddiant Tendra- Sut i Brisio Job Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 08/11/2024 Sesiwn Wybodaeth MCS Digwyddiad MCS Ty Gwyrddfai CIST Tŷ Gwyrddfai 26/11/2024 PASMA- Gweithio ar uchder Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni/ Tŷ Gwyrddfai 26/11/2024 PASMA- Hyfforddi safonol twr mynediad symudol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni/ Tŷ Gwyrddfai 02/12/2024 Hyfforddiant Tendra- Caffael Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 02/12/2024 System storio Ynni trydannol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni 03/12/2024 Hyfforddiant Tendra- Gwerthoedd Cymdeithasol Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 04/11/2024 Hyfforddiant Tendra- Achrediaidau Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 05/12/2024 Hyfforddiant Tendra- Iechyd a Diogelwch Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 06/12/2024 Hyfforddiant Tendra- Sut i Brisio Job Ebost – info@tygwyrddfai.cymru Tendra Tŷ Gwyrddfai 17/12/2024 PASMA- Gweithio ar uchder Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni/ Tŷ Gwyrddfai 17/12/2024 PASMA- Hyfforddi safonol tŵr mynediad symudol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni/ Tŷ Gwyrddfai 18/12/2024 Dyfarniad mewn effeithlonrwydd Ynni mewn hen adeiladau ac adeiladau traddodiadol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau NEBOSH- Tystysgrif mewn rheoli’r amgylchedd Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM I’w gadarnhau I’w gadarnhau NEBOSH- Ymwybyddiaeth amgylcheddol yn y gweithle Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM Ar- lein Ar gais NEBOSH- Diploma mewn rheolaeth amgylcheddol Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM Ar- lein Ar gais Gwobr level 3 archwilio, profi, ardystio aca drodd ar ososiadau trudan Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM I’w gadarnhau I’w gadarnhau Systemau pwmpio gwres domestig Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau Systemau dŵr poeth solar domestig Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau Rheoliadau dŵr Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau Ynni ac effeithlonrwydd Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau Systemau dŵr poeth heb awyrellu Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau Tystysgrif mewn arolygu a chyfrifo’r gwres a gollir o adeiladau Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM Tŷ Gwyrddfai I’w gadarnhau Awyru Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM CIST – Llangefni I’w gadarnhau dyfarniad mewn deall rhwymedigaethau trydanol gosod pympiau gwres Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM I’w gadarnhau I’w gadarnhau Dyfarniad rhagarweiniol mewn Ôl-osod Domestig Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM I’w gadarnhau I’w gadarnhau Tystysgrif i Aseswyr Ôl-osod Ebost – cist@gllm.ac.uk GLLM I’w gadarnhau
Gweithio mewn Partneriaeth
-
Adra Tai Cyf
Mae Tŷ Gwyrddfai eisoes yn gartref i brif swyddfa contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff. Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo or y stifle i ddorparu deunyddiau a chyflenwadou i ni o’n controctwyr
-
Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (Canolfan CIST), Busnes@LlandrilloMenai
Mae Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (Canolfan CIST) gan Busnes@LlandrilloMenai yn rheoli’r hyfforddiant yn y podiau hyfforddi ar safle yn Nhŷ Gwyrddfai.
Mae CIST yn darparu pecynnau hyfforddi datgarboneiddio pwrpasol ac wedi’i theilwra yn ogystal â rhaglenni hyfforddi ar gyfer y sector adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer, storio batris ac ôl-osod.
Mae rhaglenni prentisiaeth yn cael eu darparu gan Busnes@LlandrilloMenai hefyd.
Mae Hyfforddiant Net Sero Training Gwynedd yn darparu hyfforddiant sy’n arwain y sector mewn datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy, a sgiliau ôl-ffitio o Dŷ Gwyrddfai, Penygroes.
Mae’r hyfforddiant arbenigol a ddarperir yn galluogi unigolion a busnesau i ddatblygu sgiliau ym maes lleihau carbon, sy’n datblygu’n gyflym, gan ddarparu hyfforddiant i ddiwydiant sy’n cynnwys:
- Ynni Adnewyddadwy
- Ôl-ffitio (Retrofit)
- Effeithlonrwydd Ynni
- Datgarboneiddio
Busnes@LlandrilloMenai yw cangen fusnes Grŵp Llandrillo Menai ac yn darparu hyfforddiant proffesiynol, arbennigol ac ar waith.
-
Prifysgol Bangor
Trwy gyfranogiad Prifysgol Bangor, bydd Tŷ Gwyrddfai hefyd yn hyrwyddo arloesedd mewn cynhyrchion, deunyddiau a thechnoleg newydd i gefnogi datgarboneiddio ac addasu i newid yn yr hinsawdd a bydd cyfleusterau ymchwil yn cael ei sefydlu i brofi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio.
Cyfleusterau a Gwasanaethau
Beth am gynnal eich cyfarfod nesaf yn Nhŷ Gwyrddfai?
Gyda chyfleusterau o’r ansawdd gorau, parcio am ddim a lleoliad canolog yng Ngwynedd, dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer eich digwyddiad corfforaethol nesaf.
Gallwn ddarparu ystafell gynhadledd mewn steil:
- cyfarfod bwrdd
- dosbarth
- theatr
yn ogystal â chynnal cynadleddau ac arddangosfeydd ar gyfer hyd at 100 o bobl.
Mae wifi ar gael yn o gystal â offer i ymuno a chyfarfodydd yn rhithiol.
Gallwn hefyd ddarparu microffon, seinydd a platfform i sefyll arno.
Os oes gennych gwestiwn eu hoffech archebu ein ystafell gynadleddau, cwblhewch ein ffurflen archebu byr a bydd aelod o’r tîm mewn cysylltiad yn fuan.
Tŷ Gwyrddfai yn y newyddion
- Adra yn lansio Tendra
- Ymweliad pwysig i Dŷ Gwyrddfai, hwb datgarboneiddio cyntaf ym Mhrydain – Adra
- Welsh Government Minister Explores Innovative Decarbonisation Hub Ty Gwyrddfai – GreenEconomy.Wales
- Building progress at Wales’ first decarbonisation hub in Gwynedd | North Wales Chronicle
- Enw swyddogol safle Datgarboneiddio Penygroes wedi cadarnhau – Adra
- Bringing Tenants on the Decarbonisation Journey (greeneconomy.wales)
- Saint-Gobain UK and Tŷ Gwyrddfai celebrate new partnership with vision to transform social housing and deliver skills for local people | Saint-Gobain
- We’ve been shortlisted! – Adra
- Adra Launches Tendra – Adra
Cyllid
Derbyniwyd £736,000 o gyllid Llywodraeth Cymru drwy’r rhaglenni Trawsnewid Trefi a’r Economi gylchol. Roedd cais arall yn llwyddiannus hefyd drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a weinyddir gan Gyngor Gwynedd ar gyfer yr elfen Labordy Byw.