Tŷ Gwyrddfai yn cynnal digwyddiad addysgol i blant Ysgolion lleol ar swyddi sgiliau gwyrdd ac adeiladu
Mae’n bleser gan Dŷ Gwyrddfai, yr hwb datgarboneiddio cyntaf yn y DU, gyhoeddi llwyddiant digwyddiad diweddar yn addysgu plant ysgolion lleol am yrfaoedd mewn sgiliau gwyrdd a swyddi adeiladu. Cynhaliwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, Busnes@LlandrilloMenai a nifer o noddwyr Tŷ Gwyrddfai, a chynhaliwyd y digwyddiad ar 27 Tachwedd yn Nhŷ Gwyrddfai, Ystâd Ddiwydiannol, Penygroes.
Bu’r digwyddiad yn brofiad gwerthfawr i 70 o ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Bodedern, Ysgol Dyffryn Nantlle, Ysgol Syr Hugh Owen, ac Ysgol Eifionydd, gan gynnig y cyfle iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ymwneud â datgarboneiddio a sgiliau gwyrdd. Dechreuodd cynrychiolwyr o Gyrfa Cymru, Adra, a Busnes@LlandrilloMenai y diwrnod gyda chyflwyniad, ac yna sesiynau rhyngweithiol gan noddwyr Tŷ Gwyrddfai.
Roedd y sesiynau hyn yn edrych ar agweddau gwahanol swyddi gwyrdd ac adeiladu, gan alluogi myfyrwyr i gael profiad ymarferol a chwrdd â chyflogwyr posib yn y sector. Y noddwyr oedd Aico, Altro, Huws Gray, Jewson, Nuaire a Webber. Roedd y cwmnïau nodedig hyn yn hapus i gymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn, gan ddarparu gwybodaeth a phrofiad ymarferol i’r myfyrwyr. Mae’r cyfle unigryw hwn i ogledd Cymru yn amlygu ymroddiad y rhanbarth i feithrin gyrfaoedd cynaliadwy.
Trwy gydol y dydd, cymerodd myfyrwyr ran mewn gweithgareddau a oedd yn amlygu pwysigrwydd gyrfaoedd cynaliadwy, a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi gwyrdd. Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn i ysbrydoli a rhoi gwybodaeth i’r disgyblion am y cyfleoedd sydd ar gael yn y sectorau adeiladu ac amgylcheddol.
Dywedodd John L Edwards, cynghorydd cyswllt busnes gyda Gyrfa Cymru, a oedd yn cefnogi’r digwyddiad:
“Roedd yn wych gweld disgyblion yn dysgu mwy am yrfaoedd gwyrdd a rolau ym maes adeiladu, wrth ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
“Mae gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl ifanc i ystyried eu dyfodol. Maent yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen ar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am y camau nesaf yn eu bywydau.”
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus Tŷ Gwyrddfai i weithio gyda’r sector addysg a chodi ymwybyddiaeth am yrfaoedd cynaliadwy. Trwy roi gwybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddisgyblion ar gyfer swyddi gwyrdd, y bwriad yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn y meysydd hyn.
Diolch o galon i’r holl ysgolion a gymerodd ran ac i’n partneriaid am eu cefnogaeth i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Edrychwn ymlaen at gynnal mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol i barhau i siapio dyfodol swyddi gwyrdd ac adeiladu.