Llun o Prif Weithredwr Adra yn sefykll gyda Sian Gwenllian a Phrif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymu o flaen baner.

Y sector tai dan y chwyddwydr yng nghynhadledd Plaid Cymru

Daeth heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r sector tai i’r amlwg yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, 21 Mawrth)

Ymunodd cynrychiolwyr y gynhadledd mewn trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, gydag Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra a Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru yn banelwyr.

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Seneddol Arfon: “Mae Cymru yng ngafael argyfwng tai sydd wedi datblygu ers degawdau, gan adael gormod heb sicrwydd tŷ fforddiadwy. Mae’n realiti trist, ond mae hefyd yn broblem y gallwn ei datrys  – os oes gennym yr uchelgais a’r ewyllys gwleidyddol i weithredu.

“Mae Plaid Cymru’n credu nad rhwyd ​​ddiogelwch yn unig yw tai cymdeithasol ond yn sylfaen ar gyfer cymdeithas decach. Mae’n darparu sefydlogrwydd, yn cefnogi iechyd a llesiant, ac yn agor drysau i addysg a chyflogaeth. Eto i gyd, mae rhwystrau systemig yn parhau i rwystro’r ddarpariaeth tai fforddiadwy ar raddfa fawr.

“Yn y gynhadledd heddiw buom yn archwilio datrysiadau beiddgar ac arloesol, o dai a arweinir gan y gymuned i ddulliau adeiladu modern. Gallai Unnos cryfach, gyda’r pŵer i ysgogi prosiectau ar raddfa fawr a throsoli cyllid newydd, fod yn newid mawr wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hwn. Mae ein gweledigaeth yn glir: Cymru lle mae gan bawb gartref y gallant ei fforddio, a lle mae tai yn sbardun i gyfleoedd a chynaliadwyedd.”

Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Roedd hwn yn gyfle gwych i gael trafodaeth wirioneddol ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector a thrafod atebion i helpu ein cwsmeriaid a’n cymunedau i ffynnu.

“Mae nifer o heriau yn wynebu’r sector – gan gynnwys y galw cynyddol am dai fforddiadwy a thai marchnad agored. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu erbyn 2026 ac mae gan gymdeithasau tai fel Adra rôl i’w chwarae wrth helpu i gyrraedd y targed hwnnw.

“Mae gennym hefyd heriau sylweddol o amgylch cynlluniau uchelgeisiol i ddatgarboneiddio cartrefi, gan gynnwys cwrdd â’r heriau o ariannu rhaglen Safonau Ansawdd Tai Cymru a gwneud cartrefi’n effeithlon o ran ynni.

“Ond gyda’r heriau hyn daw cyfleoedd. Mae adeiladu cartrefi newydd a buddsoddi yn ein stoc tai presennol yn dod â’r angen am ddatblygu sgiliau a hyfforddiant o fewn y diwydiant adeiladu; creu cyfleoedd i fusnesau a chontractwyr lleol ac, yn ei dro, hybu’r economi gylchol”.

 

 

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.