Ymgyrch recriwtio ar Faes yr Eisteddfod
Mae Adra, cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru yn gosod ei golygon ar yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst wrth iddi barhau i hyrwyddo swyddi a phrentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi gyda’r sefydliad.
Bydd y tîm Adnoddau Dynol wrth law ddydd Iau, Awst 10 a dydd Gwener, Awst 11 yn uned Adra (ger Prifysgol Bangor) i hyrwyddo’r gwahanol fathau o yrfaoedd sydd ar gael yn Adra.
Byddant hefyd yn hyrwyddo Academi Adra, sy’n cynnig profiad gwaith, prentisiaethau, hyfforddeiaethau a chyfleoedd gwirfoddoli. Wedi’i sefydlu yn 2021, mae Adra a’i phartneriaid yn helpu pobl i gael gwaith trwy hyfforddiant pwrpasol, sy’n cynnwys profiad yn y swydd.
Dywedodd Delyth Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Gwasanaethau Pobl: “Mae Adra eisoes yn cyflogi 360 o bobl yn gweithio mewn ystod eang o swyddi – o atgyweirio a chynnal a chadw i gyllid, o TG i farchnata a chyfathrebu.
“Rydym yn falch iawn o’n sefydliad a’r bobl sy’n gweithio i ni. Mae’n lle gwych i weithio a gyda’n bwriad i dyfu’r busnes daw cyfleoedd i weithio’n uniongyrchol ar y rheng flaen, adeiladu a thrwsio eiddo, ond hefyd yr holl swyddogaethau sy’n rhoi cymorth i’r sefydliad.
“Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am yrfaoedd gydag Adra, dewch draw i’n gweld ni yn yr Eisteddfod”.
Mae’r holl swyddi gwag presennol i’w gweld ar: www.adra.co.uk/swyddi