Ymweld a cynllun ar y cyd i atal digartrefedd yng Ngwynedd
Croesawodd Adra dirprwyaeth o Gyngor Gwynedd a Thai gogledd Cymru i weld y cynnydd ar ddatblygiad 137 Stryd Fawr, Bangor.
Mae gwaith bron a’i gwblhau ar safle segur, 137 Stryd Fawr Bangor, i ddatblygu’r adeilad i fod yn 12 o fflatiau gyda chefnogaeth i atal digartrefedd, diolch i gydweithio rhwng Adra, Cyngor Gwynedd, a Thai Gogledd Cymru.
Mae Adra, Cyngor Gwynedd a Thai Gogledd Cymru yn cydweithio ar y cynllun hwn nid yn unig er mwyn sicrhau cartref i unigolion sydd mewn angen ond hefyd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth hirdymor fel nad ydynt yn mynd yn ddigartref eto i’r dyfodol.
Bydd yr adeilad yn galluogi i Gyngor Gwynedd symud ymlaen i ddarparu 12 o gartrefi â chefnogaeth fel rhan o gynllun ehangach i ddatblygu 83 o unedau tebyg ar draws y sir i fynd i’r afael â digartrefedd fel rhan o’u Cynllun Gweithredu Tai.
Adra sy’n arwain ar y datblygu, tra y bydd yr adeilad a’r gwasanaethau ategol yn cael ei reoli mewn partneriaeth gan Gyngor Gwynedd a Thai Gogledd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaeth cefnogaeth i helpu pobl i gynnal tenantiaeth tymor-hir fel eu bod yn gallu symud ymlaen i lety arall a lleihau’r risg o golli eu cartref eto i’r dyfodol.
Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt fuddsoddi £1.2 miliwn ac Adra a bydd yn dod â safle sydd wedi bod yn segur ers peth amser yn ôl i ddefnydd yng nghanol Stryd Fawr Bangor.
Dywedodd Mari Pritchard, Rheolwr Datblygu Busnes Adra:
“Rydym mor falch o fod yn rhan o’r prosiect yma gan ddod at ein gilydd â’n partneriaid er mwyn cyfrannu at atal digartrefedd. Mae’r gwaith hollbwysig yma yn gam yn agosach at ddarparu llety a chefnogaeth i bobl sydd ei angen.
“Rydym hefyd yn falch o fuddsoddi mewn adeilad ar Stryd Fawr Bangor sydd wedi bod yn wag ers peth amser a rhoi defnydd pwysig i’r adeilad.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson: “Mae’n bleser gen i weld y cydweithio yma’n digwydd rhwng aelodau o Bartneriaeth Dai Gwynedd, a diolch yn arbennig i Adra am arwain y gwaith ar ddatblygu’r adeilad fel bod modd symud ymlaen i gam nesaf y prosiect. Dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld y datblygiad newydd yma’n cynnig noddfa i’r rhai sydd wedi wynebu caledi digartrefedd.
“Mae’n anfoesol mewn cymdeithas wâr bod rhai o’n dinasyddion heb gartref ac mae digartrefedd yn cael effaith andwyol iawn ar unigolion a theuluoedd. Yma yng Ngwynedd, mae 200 o bobl ar hyn o bryd yn gorfod byw mewn llety argyfwng anaddas fel gwely a brecwast oherwydd prinder cartrefi parhaol. Ar ben hynny, mae bron i 5,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol yn y sir. Nid yw’r sefyllfa yma’n dderbyniol.
“Mae Cyngor Gwynedd yn benderfynol o fynd i’r afael â’r her yma drwy ein Cynllun Gweithredu Tai, gan weithio i ddatblygu mwy o lety â chefnogaeth a lleihau ein dibyniaeth ar lety argyfwng drud ac anaddas. Mae’r ymdrechion hyn yn sicrhau bod pobl mewn sefyllfaoedd argyfyngus nid yn unig yn cael to uwch eu pennau, ond hefyd ein bod yn eu gosod ar lwybr i sefydlogrwydd a dyfodol positif.”
Dywedodd Allan Eveleigh, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau, Tai Gogledd Cymru:
“Mae gan Tai Gogledd Cymru hanes hir a balch o ddarparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai ym Mangor ac ar draws gogledd Cymru, felly rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth ag Adra a Chyngor Gwynedd i reoli’r llety a darparu’r gefnogaeth mewn prosiect mor allweddol yn galon un o’n cymunedau. Bydd y cydweithrediad hwn yn darparu llety y mae mawr ei angen a chefnogaeth hanfodol i’r rhai sy’n profi digartrefedd yn yr ardal.”