Ymweliad hwb Datgarboneiddio ar agenda Gweinidog Llywodraeth Cymru
Heddiw, (Dydd Gwener, 20 Hydref), mae Gweinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Materion Gwledig a gogledd Cymru, a Threfnydd, Lesley Griffiths wedi ymweld â Thŷ Gwyrddfai, yr hwb datgarboneiddio arloesol sy’n cael ei greu yng Ngwynedd – y cyfleuster cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y Gweinidog Simon Harris o Lywodraeth Iwerddon sy’n ymweld â Chymru fel rhan o fforwm Cymru Iwerddon yn gwmni i’r Gweinidog.
Mae Cymdeithas Tai Adra yn arwain ar y gwaith o adnewyddu hen ffatri bapur Northwood ym Mhenygroes a gaeodd bedair blynedd yn ôl gan golli bron i 100 o swyddi gweithgynhyrchu.
Mae’r datblygiad wedi elwa ar gyfanswm o £736,000 gan Lywodraeth Cymru, sef cyfuniad arloesol o gymorth drwy Raglenni Trawsnewid Trefi a’r Economi Gylchol. Galluogodd y cyllid y gwaith i ddarparu gofod swyddfa, derbynfa newydd a gosod Podiau Hyfforddi.
Mae’r datblygiad yn brosiect ar y cyd rhwng Adra, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor a bydd yn trawsnewid y safle yn hwb datgarboneiddio a fydd yn sicrhau bod Gogledd Orllewin Cymru yn flaenllaw yn yr agenda datgarboneiddio, gan weithio gyda chymunedau a busnesau i ôl-osod dros 18,000 o gartrefi dros y 10 mlynedd nesaf.
Yn ystod yr ymweliad â Thŷ Gwyrddfai ar ddydd Gwener (Awst 20), cyfarfu’r Gweinidog â chynrychiolwyr o’r tri phartner allweddol, yn ogystal ag arweinwyr cymunedol a gweld drostynt eu hunain y cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r datblygiad.
Bydd Grŵp Llandrillo Menai yn cyflwyno sgiliau datgarboneiddio ac adeiladu wedi’u teilwra i bobl ifanc ac aelodau presennol y gweithlu adeiladu, yn enwedig mewn meysydd fel inswleiddio waliau allanol, gosod a gwasanaethu paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris.
Trwy gyfranogiad Prifysgol Bangor, bydd Tŷ Gwyrddfai hefyd yn hyrwyddo arloesedd mewn cynhyrchion, deunyddiau a thechnoleg newydd i gefnogi datgarboneiddio ac addasu i newid yn yr hinsawdd a bydd “Labordy Byw” yn cael ei sefydlu i brofi a threialu technoleg a deunyddiau newydd sy’n cyd-fynd â’r agenda datgarboneiddio.
Mae Tŷ Gwyrddfai eisoes yn gartref i brif swyddfa Trwsio, contractwr mewnol Adra sy’n cyflogi dros 150 o staff.
Mae Travis Perkins hefyd wedi sefydlu depo ar y safle i ddarparu deunyddiau a chyflenwadau i Adra a’i gontractwyr.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths: “Mae Tŷ Gwyrddfai yn ddatblygiad cyffrous sy’n dangos sut y gall Gogledd Cymru arwain yr agenda datgarboneiddio. Mae wedi bod yn bleser ymweld â hefyd arddangos y prosiect arloesol hwn i gydweithwyr o Iwerddon.”
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra: “Rydym wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi ymweld â Thŷ Gwyrddfai i weld drosti’i hun y gwaith arloesol sy’n digwydd yno.
Mae’n ddatblygiad cyffrous a bydd diddordeb mawr yn y cyfleuster, gyda nifer o unigolion o Lywodraeth Cymru wedi ymweld â’r safle, yn ogystal ag awdurdodau lleol a busnesau yn dymuno dysgu mwy neu ddod yn rhan o’r datblygiad.
“Bydd y datblygiad yn arwain at weithlu mwy cymwys a medrus, a fydd yn cefnogi’r sector adeiladu lleol ac yn sicrhau bod unrhyw werth a gynhyrchir drwy ddatgarboneiddio a buddsoddiad cyfalaf a fydd ynghlwm â hynny yn cael ei gadw’n lleol.
Bydd hefyd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yn ein cartrefi, a fydd yn ei dro yn lleihau effaith costau tanwydd ac ynni cynyddol trwy wneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon a gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid.
Dywedodd Rhianwen Edwards, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith a Masnachol: “Mae Tŷ Gwyrddfai yn sefyll fel enghraifft ryfeddol o’n cydweithrediad agos ag Adra, gan amlygu gallu Canolfan Seilwaith, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) Busnes@LlandrilloMenai i ddarparu gwasanaethau hanfodol, sgiliau a hyfforddiant i’r gadwyn gyflenwi gyfan.
“Ein gweledigaeth ar gyfer y cyfleuster hwn yw integreiddio’r hyfforddiant arbenigol mewn technolegau lleihau carbon, sydd eisoes yn cael ei gynnig yn CIST, i galon diwydiant a’r gymuned. Bydd hyn yn hybu twf sgiliau a gwybodaeth o fewn y gweithlu, gan hwyluso mabwysiadu eang o dechnolegau ac arferion lleihau carbon ac ôl-ffitio.
“Mae Tŷ Gwyrddfai yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau a chwmnïau lleol arwain y gwaith o symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”
Ychwanegodd Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, ymgysylltiad dinesig a phartneriaethau strategol ym Mhrifysgol Bangor: “Mae’r cyd-weithio sy’n digwydd yn Nhŷ Gwyrddfai yn darparu ffordd werthfawr i’r Brifysgol drosi ei hymchwil cynaliadwyedd yn gymwysiadau byd go iawn ac yn rhoi ymchwil a datblygu o safon fyd-eang Prifysgol Bangor wrth galon yr agenda datgarboneiddio lleol a rhanbarthol.
“Bydd y Labordy Byw yn helpu i brofi a datblygu cynnyrch i ôl-ffitio a datgarboneiddio stoc tai nid yn unig ar gyfer gwaith Adra, ond ar draws y sector.”
Dywedodd Ben Todd, Rheolwr Gyfarwyddwr Travis Perkins Managed Services “Rydym mor falch o gydweithio â’n partneriaid i greu’r hwb datgarboneiddio ym Mhenygroes.
“Bydd y canolbwynt yn adeiladu canolfan ragoriaeth ar gyfer datblygu datrysiadau cynnyrch ôl-ffitio yn y dyfodol, hyfforddiant sgiliau ac arloesedd mewn technoleg tai. Credwn fod gan adeiladu rôl allweddol i’w chwarae wrth ddatgarboneiddio’r amgylchedd adeiledig a dyna pam rydym yn cyflymu’r newid i sero net ar draws ein busnes, ac mae hyn yn rhan bwysig o hyn.”
“Bydd y buddion hirdymor yn bellgyrhaeddol ac yn helpu i ddatgarboneiddio cartrefi yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.”